Er mwyn deall Newid Defnyddiau, mae angen cofio:
Nid oes newid màs pan fo newid ffisegol (e.e. mae 1kg o ddŵr yn anweddu i wneud 1kg o stêm). Mae gan bob elfen a chyfansoddyn briodweddau ffisegol gwahanol.
Mae'n bosib darganfod a yw sylwedd yn solid ar dymheredd ystafell (20oC) wrth edrych ar ei ymdoddbwynt a'i berwbwynt.
Mae newid cyflwr yn digwydd heb fod newid tymheredd, ac mae'r tymheredd hwn yn wahanol i wahanol ddefnyddiau.
Mae trosglwyddiad egni'n digwydd pan fo newid mewn cyflwr - rhaid cael egni gwres i ymdoddi haearn.
Mae gan hydoddion wahanol hydoddeddau mewn gwahanol hydoddyddion, ac ar wahanol dymereddau.

Rhaid gwybod sut y ffurfir
- creigiau igneaidd (crisialau magma yn oeri)
- creigiau metamorffig (newid dros amser hir o dan wasgedd uchel)
- creigiau gwaddodol (newid dros amser hir, gweddillion planhigion ac anifeiliaid yn ffurfio haenau sydd o dan wasgedd uchel).
Mae cerrig yn cael eu torri'n llai gan y tywydd dros amser. Hindreuliad yw enw'r broses hon.