CA3 Bioleg - Iechyd - L5-6Er mwyn deall yr uned Iechyd, mae angen cofio: - Mae afiechydon yn cael eu hachosi gan ficro-organebau. Gallant fod yn:

- Mae rhai mathau o facteria yn dda i'r corff. Maent yn resbiradu, symud, tyfu, bwyta ac atgynhyrchu. Maent yn gallu cael eu gwasgaru drwy'r awyr yn ystod cyfnodau sych, a gallant ryddhau gwenwynau
- Mae ffyngau yn hoffi llefydd llaith, ac maent yn atgynhyrchu wrth greu sborau sy'n teithio o berson i berson. Gan fod ffyngau yn bwysig yn y broses o bydru, maent weithiau'n ddefnyddiol
- Mae firws yn llawer llai na bacteria, ac er nad yw'n resbiradu, symud, tyfu nag yn bwyta, mae yn atgynhyrchu'n gyflym o fewn celloedd y corff, gan adael y celloedd yn farw
- Os yw micro-organebau yn llwyddo i dreiddio croen y corff, maent yn teithio o fewn y corff ac yn creu niwed
- Mae system imiwnedd y corff (celloedd gwyn y gwaed) yn ymosod ar y micro-organebau mewn tair ffordd:
(i) anfon antitocsin er mwyn niwtralu'r gwenwyn; (ii) amlyncu'r (bwyta) micro-organebau; (iii) anfon allan gwrthgyrff sy'n glynu wrth antigennau ar arwyneb y micro-organebau ac yn eu niwtralu.
- Mae hefyd ddau fath o imiwnedd artiffisial:
(i) imiwnedd goddefol - dyma pryd mae'r corff yn cael ei frechu gyda hylif sy'n cynnwys micro-organebau sydd wedi marw - fe fydd gwrthgyrff yn cael eu creu gan y corff yn barod i ymosod pan fo'r angen; (ii) imiwnedd actif - chwistrelliad serwm, sy'n cynnwys gwrthgyrff, yn uniongyrchol i'r corff. - Mae ysmygu yn effeithio'n fawr ar iechyd person:
(i) colesterol yn cynyddu - rhwystro llif y gwaed, arwain at drawiad y galon, pwysau gwaed uchel a strôc; (ii) lleihad yn arwynebedd y codennau aer - arwain at emffysema; (iii) cynnydd o garbon monocsid yn cyrraedd yr ysgyfaint - mae hyn yn tryledu'n gynt nag ocsigen i'r gwaed, ac yn lleihau faint o ocsigen sy'n cyrraedd rhannau'r corff. Gall hyn fod yn niweidiol iawn i faban yng ngroth y fam; (iv) celloedd ciliaraidd yn leinin y bronci'n cael eu gwneud yn anactif - cynnydd yn y mwcws, a faint o dâr sy'n aros yno; (v) lleihau egni'r corff. - Gall cyffuriau niweidio person yn gorfforol, ac yn emosiynol.
|