CA3 Bioleg - Esgyrn yn symud - L5-7Er mwyn deall yr uned Esgyrn yn symud, mae angen cofio:  - Mae gan y sgerbwd dynol dair swyddogaeth:-
(i) cynnal y corff (ii) amddiffyn rhai o organau pwysig y corff (iii) helpu ni i symud
- Mae gan y corff dynol dros 200 o esgyrn, pob un gydag enw arbennig
- Halwynau mwynol (calsiwm) yw'r darn allanol, caled o asgwrn, gyda chnewyllyn meddal, sef y mêr. Y strwythur yma sy'n gwneud yr esgyrn yn ysgafn ond yn gryf iawn hefyd
- Pedwar prif fath o gymal sydd gan y corff:
(i) Cymalau ansymudol e.e. y penglog; (ii) Cymalau llithro (symud ychydig) e.e. y garddwrn, yr asgwrn cefn; (iii) Cymalau symudol - dau fath, sef pelen a soced (360o) a cholfach (180o)
- Mae gan bob cyhyr strwythur elastig a chyflenwad da o waed a nerfau
- Cyfangu (gwneud ei hun yn fyrrach) mae'r cyhyr, ac felly tynnu ar yr esgyrn, a'u symud o gwmpas y cymal
- Mae cyhyrau'n gweithio mewn parau - parau gwrthweithiol. Wrth i un gyfangu, mae'r llall yn ymlacio.
|