CA3 Bioleg - Resbiradaeth - L5-7 Er mwyn deall yr uned Resbiradaeth, mae angen cofio:
- Mae pob cell yn eich corff yn resbiradu, dyma beth sy'n rhoi egni i ni er mwyn cerdded, meddwl, dawnsio ac ati
- Nid anadlu yw resbiradaeth; adwaith yn cytoplasm y gell yw resbiradaeth
- Yn resbiradaeth aerobig mae glwcos yn adweithio gydag ocsigen er mwyn ffurfio egni, dŵr a charbon deuocsid
- Defnyddir yr egni i gadw'r celloedd yn fyw ac mae peth egni yn cael ei storio i'w ddefnyddio pan fo'r angen
- Yn resbiradaeth anaerobig mae diffyg ocsigen yn golygu bod glwcos yn cael ei droi yn egni a'n asid lactig gan y gell - nid yw'r broses yma mor effeithiol â resbiradaeth aerobig
- Mae cynnydd mewn asid lactig yn achosi cramp yn y cyhyrau
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â diagram yr ysgyfaint, ac eich bod yn gwybod enwau a swyddogaethau'r tracea, broncws, bronciolynnau ac alfeoli

- Daw yr ocsigen o'r aer rydym yn ei anadlu. Mae'n teithio ar hyd y tracea, i fewn i'r bronci sy'n rhannu'n diwbiau llai, y bronciolynnau. Ar ddiwedd pob bronciolyn y mae setiau o godennau aer (alfeoli), sydd â phibellau gwaed drostynt i gyd. Mae'r ocsigen yn tryledu i'r gwaed yma, a charbon deuocsid yn tryledu o'r gwaed. Dim ond 30% o'r aer yn yr ysgyfaint sy'n cyfnewid
Mae'r cyfradd anadlu (rhwng 12 ac 16 anadl y funud) yn cael ei rheoli gan yr ymennydd - os yw lefel y carbon deuocsid yn y gwaed yn uchel, mae'r ymennydd yn anfon neges at y llengig a'r cyhyrau rhyngasennol i gyfangu'n gyflymach Mae dylyfu gên yn arwydd bod person yn anadlu'n rhy araf |