Er mwyn deall yr uned Celloedd yn byw, mae angen cofio:
Mae celloedd anifeiliol yn cynnwys:

Tra bod celloedd planhigol yn cynnwys:

Mae swyddogaeth arbennig gan bob rhan o'r gell, sef:
Cnewyllyn - Mae'r cnewyllyn yn cynnwys gwybodaeth enetig y gell ac yn rheoli gweithgareddau'r gell.
Cellbilen - Y gellbilen sy'n rheoli symudiad cemegau i mewn ac allan o'r gell.
Cytoplasm - Hylif dyfrllyd, debyg i jeli, yw'r cytoplasm lle mae prif adweithiau cemegol y gell yn digwydd.
Cellfur - Mae'r cellfur mewn celloedd planhigyn wedi'i wneud o gellwlos. Mae'r cellfur yn anhyblyg ac yn cynnal y gell. Nid oes gan gelloedd anifeiliaid gellfuriau.
Cloroplastau - Cydrannau crwn mewn cell planhigyn yw cloroplastau sy'n cynnwys y pigment gwyrdd cloroffyl sydd ei angen ar gyfer y broses ffotosynthesis.
Cofiwch:
Mae cloroplastau a chellfuriau gan lawer o gelloedd planhigol. Nid oes cellfuriau na chloroplastau gan gelloedd anifeiliol.
Mae systemau gan organebau, sy'n cynnwys nifer o organau yn gweithio gyda'i gilydd. Y systemau organol yma sy'n cynnal y prosesau bywyd, sef maethiad, resbiradaeth, symud, sensitifedd, tyfu, atgenhedlu ac ysgarthu. (cofiwch Mrs. Stay)
Maethiad
resbiradaeth
symud
Sensitifedd
tyfu
atgenhedlu
ysgarthu