CA2 Pethau Byw - Anifeiliaid: Dannedd a maethiad

Atgenhedlu
  • Mae pob anifail yn tyfu ac yn atgenhedlu.

  • Mae anifeiliaid yn tyfu ar wahanol gyflymdra yn ystod eu hoes.

  • Mae yna lawer o amrywiaeth - mae plant o'r un oedran yn amrywio mewn maint.


  • Dyma'r prif gyfnodau yng nghylch bywyd bodau dynol ac anifeiliaid eraill.

Cadw'n iach

dannedd a maethiad


  • Mae cadw'n iach yn golygu: diet cytbwys, gorffwys, ymarfer corff, a gwneud dewisiadau call.

  • Mae bodau dynol (fel anifeiliaid) angen bwyd

  • Mae arnom angen amrywiaeth mawr o fwydydd i roi diet cytbwys i ni

  • Mae'r bwyd yn cael ei dorri i lawr y tu mewn i'r corff ac mae'n gwneud yn siŵr ein bod yn tyfu, trwsio ac yn cael egni.
Dannedd

dannedd a maethiad


  • Mae dannedd yn gryf iawn.

  • Mae bodau dynol yn tyfu dwy set o ddannedd yn ystod eu hoes:

  • - Dannedd babi (tua 20 dant)
    - Dannedd parhaol (tua 32 dant)
  • Mae gan fodau dynol dri phrif fath o ddannedd:

  • - Rydyn ni'n defnyddio dannedd blaen i frathu bwyd.
    - Rydyn ni'n defnyddio dannedd llygaid i rwygo bwyd.
    - Rydyn ni'n defnyddio dannedd ôl (cilddannedd) i gnoi bwyd.
  • Mae dannedd yn wahanol mewn anifeiliaid eraill
dannedd a maethiad


  • Mae bacteria yn y geg yn defnyddio siwgr fel bwyd ac yn gwneud asid, ac yn pydru'r dannedd. Felly mae bwyta siwgr yn ddrwg i'ch dannedd.

  • Drwy ofalu am y dannedd rydyn ni'n gallu gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn pydru. Mae'r diet (calsiwm, fitamin C a halwynau mwynol), fflwroid, brwsio ddwywaith y dydd, defnyddio edau dannedd, a mynd at y deintydd i gyd yn helpu.
News image