CA2 Pethau Byw - Prosesau bywyd

Mae pethau byw i gyd yn Tyfu, Atgenhedlu, Symud, angen Maeth, ac yn Sensitif.
pethau byw


Dyma frawddeg dda i dy helpu di i gofio'r geiriau:
Triodd yr anifail sgrialu a methu stopio.

pethau byw Tyfu - T - Triodd
  • Cynyddu mewn maint ydy tyfu. Twf ydy'r broses o dyfu
  • Mae anifeiliaid bach yn tyfu ac yn dod yn oedolion
  • Mae eginblanhigion yn tyfu'n blanhigion aeddfed, mwy

pethau bywAtgenhedlu - A - yr Anifail
  • Mae anifeiliaid a phlanhigion yn creu anifeiliaid a phlanhigion newydd sy'n debyg i'w rhieni

pethau bywSymud - S - Sgrialu
  • Mae anifeiliaid yn symud mewn sawl gwahanol ffordd

  • Mae planhigion yn gallu symud eu dail er mwyn amsugno goleuni'r haul

pethau bywMaethiad - M - a Methu
  • Mae planhigion yn gwneud eu bwyd eu hunain o ddeunyddiau crai syml

  • Dydy anifeiliaid ddim yn gwneud eu bwyd eu hunain. Maen nhw'n bwyta planhigion neu anifeiliaid eraill

pethau bywSensitifrwydd - S - Stopio
  • Mae anifeiliaid a phlanhigion yn gwybod am y ffordd mae eu hamgylchedd yn newid ac maen nhw'n ymateb i hynny

COFIA...
gallu gwneud pob un o'r rhain ydy beth sy'n gwneud pethau yn organebau byw

News image