 |  |  |  |  | | Act | Prif rannau mewn drama. Fel arfer mae drama wedi ei rhannu i ddau neu dri act. |  | | Atalnodi | Defnyddir symbolau i drefnu gwaith ysgrifenedig yn gywir |  | | Atalnod llawn | Mae'r marc hwn yn cael ei ddefnyddio ( . ) ar ddiwedd brawddeg. |  | | Awdur/Awdures | Person sy'n ysgrifennu darn o waith e.e. llyfr, drama neu stori. |  | | Anghytuno | Pan dydych chi ddim yn cytuno gyda rhywun arall, rydych yn anghytuno. |  | | Arddull | Defnyddio geiriau arbennig er mwyn creu ffordd benodol o ysgrifennu neu siarad. |  | | Adroddwr/Adroddwraig | Rhywun sy'n dweud stori. |  | | Adfail | Hen adeilad sydd wedi dirywio. |  | | Achlysur / Achlysuron | Adeg neu ddigwyddiad arbennig e.e. pen-blwydd neu'r Nadolig. |  | | Adferf / Adferfau | Gair sy'n disgrifio berf e.e. 'rhedeg yn gyflym'. |  | | Ansoddair/ansoddeiriau | Gair sy'n disgrifio enw e.e. ton enfawr, cymylau gwynion. |  | | awyrgylch | y teimlad arbennig sydd o gwmpas digwyddiad neu le |  | | amwys | Rhywbeth sydd â mwy nag un ystyr |  | | ansoddair | Gair sy'n disgrifio enw e.e. bochau coch, sosban fach |  |
|  |  |
|
|