CA2 Creu Stori - Datblygiad Stori

Efallai byddwch yn gallu meddwl am sawl peth fyddai'n gallu digwydd yn y stori. Mae un neu ddau o ddigwyddiadau'n ddigon!

Gallwch chi ysgrifennu am y canlynol:

  • Rhywun neu rywbeth yn mynd ar goll

Ble all y fodrwy fod wedi diflannu? Roedd tasg enfawr yn wynebu Dreigiau Dinefwr!

Rhedodd y lleidr fel bollt o wn gan neidio dros gloddiau fel ebol blwydd. Ond yn ffodus roedd yr heddlu'n aros amdano ar ddiwedd y cae!

  • Cymeriad drwg

Roedd Ffred yn gallu bod yn gas iawn - a dweud y gwir, fe oedd bwli'r pentref. Ond un diwrnod fe gafodd e ail...

  • Problem annisgwyl

"Mae pob dim yn rhedeg fel wats!" gwaeddodd Miss Huws o gefn y bws.
Ond yn anffodus fe welodd fwg yn dod rhwng y seddi...

  • Digwyddiad anhygoel

Doedd hyn erioed wedi digwydd i Robin o'r blaen! Cyfrifiadur yn sgwrsio ag e'! Ond doedd neb yn ei gredu!

Diwedd cadarn

Mae'n bwysig gorffen y stori mewn ffordd ddiddorol gan ddod a phethau pwysig yn y stori at ei gilydd.

Mae sawl ffordd gallwch chi orffen y stori.

Ond yn anffodus, nid oedd Mair yn siŵr beth oedd wedi digwydd...

  • Cwestiwn

Beth petai Carys wedi rhedeg ar ôl y lleidr? Tybed beth fyddai wedi digwydd wedyn?

  • Diwedd emosiynol

Doedd Catrin byth yr un fath ar ôl y diwrnod hwnnw. Roedd hi'n gaeth i'w chadair olwyn am weddill ei bywyd. Disgynnai'r dagrau'n araf, araf i lawr ei boch wrth iddi weld ei ffrindiau'n chwarae'n llon yn y parc. Dyna beth oedd camgymeriad, camgymeriad y byddai'n talu'n ddrud amdano gweddill ei bywyd.

News image