![]() |
CA2 Creu Stori - Lleoliad storiEr mwyn sicrhau bod y stori'n mynd i ddal gafael yn nychymyg y darllenydd, mae'n bwysig i chi ddewis lleoliadau da. Gallwch ddewis unrhyw le!
Roedd y gwynt yn chwythu ar hyd y stryd lwyd, unig. Doedd y stryd byth yr un fath ar ôl i Megan gael ei tharo gan gar cyflym.
Roedd hon yn wlad wahanol i unrhyw wlad arall! Doedd dim syniad gan Maldwyn ei fod ar fin ymweld â'r wlad am gyfnod hir, hir iawn.
Roedd Mam Rhydian wedi eu rhybuddio i beidio mynd yn agos at yr afon - ond wrandawodd neb arni - yn anffodus!
Atseiniodd gamau'r dyn creulon yn agosach ac yn agosach yn y warws oer! Rhedodd ias i lawr cefnau'r ddau! Beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf iddyn nhw? Pwy â ŵyr! Os ydych chi'n dewis lleoliadau cyffrous, beth am greu awyrgylch i sicrhau bod y darllenydd yn darllen i ddiwedd y stori. Disgrifio'r lleoliad Mae disgrifio'n bwysig iawn mewn stori hefyd. Mae'n bwysig er mwyn lleoli stori. Hefyd, bydd y darllenydd yn gallu gweld y darlun yn fyw yn ei ddychymyg. Mae'n bwysig eich bod chi'n disgrifio gwahanol sefyllfaoedd. Felly, os ydych chi'n sôn am goedwig, yna mae angen disgrifio'r goedwig. Dyma enghraifft: Cerddodd Nia'n ofalus trwy'r goedwig ddu. Roedd y lle fel bol buwch ac roedd hi'n crynu yn ei hesgidiau bob tro y clywai aderyn yn hedfan o'r coed. Doedd dim syniad ganddi i ba gyfeiriad yr oedd hi'n mynd nes iddi glywed sŵn - sŵn y dail crin yn dawnsio'n wyllt! Edrychwch ar y llun yma a'i ddisgrifio fel petasech chi yn ysgrifennu stori. Cofiwch ddefnyddio ansoddeiriau diddorol. |
![]() |