CA2 Creu Stori - Syniadau am stori

"Mr Jones, dw i ddim yn gwybod am beth i ysgrifennu!"

"Mrs Pritchard, dw i ar ganol ysgrifennu fy stori ond dw i ddim yn gwybod beth i ysgrifennu amdano nesaf!"

Er mwyn osgoi problemau fel hyn, cynlluniwch eich stori'n ofalus.

Mae'n bwysig felly bod gennych chi syniad da cyn dechrau ysgrifennu'r stori. Beth am ysgrifennu stori am:

  • ddigwyddiad neu brofiad sydd wedi digwydd i chi?
  • syniad a gawsoch chi wrth ddarllen rhywbeth?
  • syniad a gawsoch chi wrth wylio rhaglen deledu?
Dyma enghraifft i chi o syniad am stori:

Dyma sylfaen i'ch stori. Beth sydd angen i chi wneud nawr ydy creu cynllun stori o'r syniad. Bydd canllawiau pendant gennych chi i'w dilyn wedyn. Bydd hyn yn eich helpu chi pan fyddwch chi'n ysgrifennu'r stori!

News image