![]() |
CA2 Creu Stori - Beth yw stori?![]() Adroddiad am ddigwyddiadau dychmygol neu ddigwyddiadau o'r gorffennol ydy stori. Mae storïau'n cael eu hysgrifennu i ddiddanu'r darllenydd neu'r gwrandawr. Mae pob math o storïau yn cael eu hysgrifennu gan bob math o awduron. Yn y Dalen Ffeithiau yma, fe fyddwch chi'n dysgu beth sy'n gwneud stori dda. Gobeithio wedyn byddwch chi'n gallu bod yn awduron fydd yn ysgrifennu storïau o bob math er mwyn rhoi pleser i bobl eraill! Storïau, storïau storïau...! Pa fath o storïau..? Mae'r math o stori byddwch chi'n dewis yn dibynnu llawer ar y teitl neu'r thema rydych chi'n dewis ysgrifennu amdanyn nhw. Mae'n rhaid dewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod y stori yn un addas i'r testun neu'r thema benodol honno. Mae pob math o storïau i'w cael! Cliciwch yma er mwyn darganfod mwy am y gwahanol fathau o storïau - ![]() |
![]() |