
Llun ydy portread, llun o berson gan arlunydd neu awdur.

Mae arlunydd yn tynnu llun o berson gan ddefnyddio pensil neu baent. Mae awdur yn tynnu llun o berson gan ddefnyddio geiriau i greu disgrifiad corfforol, personoliaeth a hanes.
Pam ysgrifennu portread?
- Ydych chi ambell waith yn syllu ar wahanol bobl am ddim rheswm o gwbl?
- Ydych chi ambell waith yn sylwi ar beth mae pobl yn ei wisgo?
- Ydych chi ambell waith yn sylwi ar beth mae pobl yn ei ddweud a'r ffordd maen nhw'n siarad?
- Ydych chi ambell waith yn sylwi ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn ac weithiau'n teimlo?
- Ydych chi ambell waith yn sylwi ar y pethau bach - y pethau sy'n gwahaniaethu un person oddi wrth bob person arall yn y byd?
Rydych chi felly yn rhyw fath o dditectif! Rydych chi'n sylwgar iawn ac yn amlwg yn mynd i allu ysgrifennu portread gwych!
Sut mae creu darlun o gymeriad?
Mae'n bwysig canolbwyntio ar y nodweddion canlynol er mwyn cael darlun llawn o wahanol bobl:
- disgrifio golwg
- disgrifio personoliaeth
- disgrifio gweithredoedd
- disgrifio hanes