CA2 Creu Llythyr - E-bost a neges destun

Mae pethau tebyg a gwahanol iawn rhwng e-bost a llythyr. Dyma fformat e-bost - darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy!

Beth yw E-bost

Beth tybed sy'n wahanol?

  • Cynnwys byr.
  • Dim angen ysgrifennu cyfeiriad a chôd post y sawl sy'n anfon / derbyn y llythyr fel rhan o'r neges.
  • Dim angen defnyddio 'Annwyl...' fel cyfarchiad ar y cychwyn. Defnyddiwch 'Helo!' neu 'Bore da' er enghraifft.
  • Rhaid i'r cyfeiriad e-bost fod yn berffaith gywir.
  • Ysgrifennwch deitl i'r e-bost fel bod y testun yn glir i'r person sy'n ei dderbyn!

Testun yr e-bost

Dyma enghreifftiau i chi:

Testun: Gwahoddiad i barti!

Testun: Cyfarfod Cyngor Ysgol

Mae'n bwysig i chi gofio mai dim ond ychydig eiriau sydd eu hangen fel teitl er mwyn ei gadw'n gryno!

Cynnwys yr e-bost

Ysgrifennwch mewn ffordd gryno fel bod y darllenydd yn gallu ei ddarllen yn gyflym.

Gallwch ysgrifennu mewn brawddegau llawn neu ar ffurf nodiadau. Mae hyn yn dibynnu ar ddau beth:

  • i. y person sy'n mynd i dderbyn yr e-bost
  • ii. cynnwys yr e-bost.

Cyfeiriadau e-bost

Dyma rai enghreifftiau i chi:

dafyddwilliams@gwladyrebost.co.uk

alwennaannwyl.anwylfan1@anwylfyd.co.uk

Beth am i chi greu cyfeiriadau e-bost diddorol eich hunain? Beth am i chi geisio cael rhai ohonyn nhw i gyflythrennu? Rhannwch eich cyfeiriadau gyda gweddill y dosbarth!

Mae Carys wedi bod yn brysur yn ysgrifennu e-bost. Sut byddech chi'n ei wella ac yn ei wneud yn fwy cryno? Cofiwch y wybodaeth sydd yn y pwyntiau bwled uchod!

E-bost

Printiwch y dudalen yma, a defnyddiwch yr e-bost isod i ysgrifennu at eich ffrind yn dweud eich hanes yn ennill cystadleuaeth arbennig! Cofiwch ddilyn y drefn gywir!

E-bost

Neges Destun

Llythyr personolMae ffonau symudol yn boblogaidd iawn ac yn ffordd effeithiol o gadw mewn cysylltiad.





  • Does dim rhaid siarad ar y ffôn symudol bob tro - gallwn yrru neges ysgrifenedig ar y ffôn fel neges destun!
  • Mae'r negeseuon yn fyr ac i bwrpas er mwyn arbed amser ac arian!
  • Mae hwn yn debyg iawn i'r hen delegram.

Dyma rai enghreifftiau i chi:

Wt tisho swper am 6 heno?Gad fi wbod! Daf

Joio nithiwr! roedd y 2 yn chwys laddar!G

Disgo cal gaeaf yn ysgol am 5. Ffansi?

Does dim rhaid i chi nodi eich enw ar ddiwedd y neges bob tro!

News image

Ysgrifennwch neges destun i'ch partner mewn ffurf deialog. Beth am i chi drafod rhyw ddigwyddiad cyffrous? Bydd hyn yn gyfle da i'ch partner ei ateb wedyn. Beth am drio ddefnyddio rhai o'r enghreifftiau uchod i fyrhau eich neges? Rhannwch eich negeseuon gyda gweddill y dosbarth!

News image