![]() |
CA2 Creu Llythyr - Iaith llythyr ffurfiolMae'n bwysig eich bod yn defnyddio person cyntaf i sôn am eich hunain bob tro: Rydw i... Nid yw'n syniad da i ddefnyddio ffurfiau anffurfiol, Dw i... Rwy'n... Yn yr un modd, rydych chi'n defnyddio'r ail berson yn ffurfiol hefyd. Rydych chi... Cofiwch Mae angen defnyddio dechrau brawddegau cywir bob tro, Does dim Maen nhw Roedden ni Doeddwn i ddim Cofiwch... Termau da i'w defnyddio Heblaw hynny... Yn ogystal â ... Fodd bynnag... Serch hynny... Llythyr i gwyno Pan ydych chi'n ysgrifennu llythyr i gwyno am rywbeth penodol, mae'n bwysig eich bod yn cyfleu hynny mewn ffordd ffurfiol. Dyma rai enghreifftiau y gallwch eu defnyddio. yn teimlo'n ddig... wedi cael fy siomi... wedi cael fy nghythruddo... wedi codi fy ngwrychyn... yn wallgo... yn wyllt gacwn... yn teimlo'n siomedig... yn ddig iawn... Dewiswch bedwar o'r rhestr uchod a chwblhewch y brawddegau. Darllenwch nhw i weddill y dosbarth! Fydden nhw'n addas i ysgrifennu llythyr personol? Pam? Darllenwch y brawddegau cyntaf yma, yna gweithiwch mewn grŵp i ddyfalu pa fath o lythyr sy'n cael ei hysgrifennu, at bwy mae'n mynd a beth yw ei bwrpas: |
![]() |