CA2 Creu Llythyr - Beth yw llythyr?

Beth yw llythyr?

Neges ysgrifenedig gan un person at un arall yw llythyr.

Ers talwm

Doedd hi ddim mor hawdd cadw mewn cysylltiad ers talwm. Sut oedd pobl yn cadw mewn cysylltiad?

Ers talwm

  • Mynd â negeseuon ar droed neu ar gefn ceffyl.
  • Telegram - byr iawn - talu yn ôl y gair.
  • Y system bost yn datblygu yn sgîl poblogrwydd anfon llythyrau.

Yr oes dechnegol

Mae sawl ffordd wahanol o gadw mewn cysylltiad erbyn heddiw gan fod yr oes dechnegol wedi datblygu a newid pethau! Sut tybed?

Yr oes dechnegol

  • Peiriant ffacs - trosglwyddo gwybodaeth o un man i'r llall yn rhwydd o fewn ychydig eiliadau.
  • E-bost - nid oes angen i chi symud o'r tŷ - dim ond gwasgu botwm ar y cyfrifiadur!
  • Ffôn.
  • Ffôn symudol - siarad ac ysgrifennu negeseuon testun. Nodyn-bodyn yw'r enw ar y dasg hon!

Pam ein bod yn ysgrifennu llythyrau?

Mae'n ffordd dda o rannu gwybodaeth bwysig! Mae hyn yn cynnwys achlysuron hapus e.e. genedigaeth baban, llwyddiant arholiad neu achlysuron sy'n peri tristwch fel damwain neu farwolaeth er enghraifft.

  • Mae'n debyg i chi i gyd ysgrifennu llythyr at Siôn Corn ryw dro neu gilydd a'i bostio i Begwn y Gogledd!
  • Mae'n ffordd bwysig o fynegi barn am ddigwyddiad neu i gyfleu safbwynt cryf ynglŷn â rhywbeth.

Yr hyn sy'n bwysig i ni ei gofio yw pwysigrwydd dewis y ffordd fwyaf defnyddiol ac addas o gyfathrebu a chadw mewn cysylltiad i ni ar y pryd!

Cydweithiwch gyda phartner i greu rhestr o wahanol ffyrdd yr ydych chi'n cyfathrebu gydag eraill!

News image