![]() |
CA2 Creu Dyddiadur - Iaith mewn dyddiadurDefnyddio'r berfenw Gallwn ysgrifennu mewn ffurf nodiadau byrion mewn dyddiadur. Er mwyn gwneud hyn, fe allwn ni ddefnyddio berfenwau yn lle defnyddio berfau. Dyma enghraifft i chi o ferfenwau a berfau (person cyntaf unigol): ![]() Dyma enghraifft i chi o nodiadau byrion sydd wedi cael eu hysgrifennu gan ddefnyddio berfau: Enillais wobr yn y ras 100 medr heddiw ym mabolgampau'r ysgol! Teimlais mor falch. Pawb yn hapus drosta'i! Pe baech eisiau ysgrifennu'n fyrrach eto yna fe allwch chi ddefnyddio'r berfenw. Dyma'r un wybodaeth eto, ond y tro hwn mae wedi cael ei ysgrifennu gan ddefnyddio'r berfenwau: Ennill gwobr yn y ras 100 medr heddiw ym mabolgampau'r ysgol! Teimlo mor falch. Pawb yn hapus drosta'i! Amser presennol a'r amser gorffennol. Pan rydyn ni'n ysgrifennu dyddiadur, mae'n bosibl i ni ysgrifennu yn yr amser presennol a'r amser gorffennol, er enghraifft: Presennol Rydw i wedi cael fy nghosbi Gorffennol Cefais fy nghosbi Mae defnyddio'r gorffennol a'r presennol yn gywir pan rydych chi'n ysgrifennu dyddiadur. Cofiwch eich bod yn cadw at yr un amser o fewn pob paragraff fel ei fod yn gwneud synnwyr! Iaith y dyddiadur Pan rydyn ni'n ysgrifennu dyddiadur, profiad personol yw hwn gan amlaf. Hynny yw, dydy'r athro neu'r athrawes ddim yn mynd i ddarllen a chywiro'r gwaith gyda beiro goch achos dydy e ddim yn gywir nag yn anghywir! Gallwch felly ysgrifennu'n naturiol heb orfod poeni'n ormodol am gywirdeb yr ysgrifennu. Er hyn, mae ambell i beth sydd angen i ni ei gofio! Iaith naturiol Gallwch ysgrifennu'n union fel rydych chi'n siarad. Rydyn ni'n galw hyn yn iaith naturiol. Gallwch gynnwys dafodiaith. Dydd Sul, Hydref 13 Pa eiriau sydd yn dafodieithol yma? Printiwch y dudalen ac uwcholeuwch nhw. Beth am ofyn i'ch athro neu eich athrawes am eu hystyron! Iaith ddiddorol Mae ysgrifennu gan ddefnyddio iaith ddiddorol hefyd yn bwysig. Mae hyn yn gwneud y darllen llawer iawn mwy diddorol pan fyddwch yn ei ddarllen ymhen wythnos, fis, blwyddyn neu ddegawd hyd yn oed. Dyma ran o ddyddiadur Edie Benson, merch a gafodd y profiad o fyw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sylwch ar sut mae hi'n ysgrifennu'n ddiddorol. A'r newyddion da? Mae'r sêr yn werth eu gweld! Yn yr hen ddyddiau, cyn y rhyfel, roedd goleuadau'r stryd yn eu cuddio nhw, ond rwan, ar nosweithiau clir, mae'r awyr cyn ddued â glo ac wedi'i gorchuddio â miloedd o sêr, yn disgleirio fel diemwntau. Fe allwch chi weld y Llwybr Llaethog hyd yn oed, yn ymestyn ar draws yr awyr fel sgarff sidan, ysgafn Sylwch ar y dair gymhariaeth: cyn ddued â glo Atalnodi Gallwch ddefnyddio ebychnod i nodi syndod, neu os oes rhywbeth digrif gennych i'w ddweud. Er enghraifft: Wwww! Nefi wen!! Mae yr un peth wedi digwydd eto!! Defnyddiwch gofynnod i ddangos fod brawddeg yn gwestiwn. Er enghraifft:Dydd Sul, 6 Mai 2005 Tybed i ble aeth y balŵn? Tybed pwy sydd wedi ei derbyn? I ble mae hi wedi teithio tybed? Tybed a fydden nhw'n anfon y tocyn yn ôl ata i? Pwy â ŵyr?
|
![]() |