![]() |
CA2 Creu Dyddiadur - Beth yw dyddiadur?Cofnod dyddiol o ddigwyddiadau, ac weithiau o ymateb iddyn nhw, ac o deimladau personol, ydy dyddiadur.
Faint ohonoch chi sy'n cadw dyddiadur?
Mae'n ddiddorol iawn darllen dyddiaduron pobl dros gyfnod o amser gan ein bod yn gallu cymharu, er enghraifft, sut roedd pobl yn byw ers talwm gyda'r ffordd rydyn ni'n byw heddiw. Mae dyddiaduron hefyd yn cynnwys wybodaeth bwysig am amseroedd cyffrous neu drist mewn hanes. Y dyddiadur hanesyddol amlycaf yw 'Dyddiadur Anne Frank' gan ei bod wedi ysgrifennu am beth ddigwyddodd iddi hi a'i theulu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ffurf Mae'n bwysig nodi'r dyddiad yn llawn ar gyfer pob dydd. Mae sawl ffordd o wneud hyn, er enghraifft: Dydd Gwener, y 5ed o Fedi, 2005 Dydd Gwener, 05/09/2005 Gwener, 05/09/05 Mewn dyddiadur, rydyn ni fel arfer yn ysgrifennu pob dim yn y drefn mae'r digwyddiadau wedi digwydd. Y drefn gronolegol yw'r enw ar hyn. |
![]() |