CA2 Creu Cerdd - Pethau i helpu'r bardd!

Pan fyddwch yn ysgrifennu barddoniaeth, cofiwch ddefnyddio iaith amrywiol ac addas. Dyma rai syniadau i'ch helpu chi:-

1. Berfau - gair sy'n disgrifio beth mae rywun neu rhywbeth yn ei wneud

e.e.
Cerdded
Ymlwybro
Llusgo

Sawl berf allwch chi weld yn y gerdd hon gan blentyn o'r enw Leigh Jones?

Y Traeth

Nofio, rhedeg,
Chwarae, Sblashio,
Neidio, yfed,
Trochio, plymio,
Cerdded, sychu
A thorheulo
Dyna beth yw enjoio!

2. Adferfau - geiriau sy'n disgrifio berfau.

e.e.
rhedeg yn gyflym
Hedfan yn uchel

Darllenwch cerdd Leigh eto. Beth am ychwanegu adferfau at y berfau. Cofiwch ei bod yn bwysig bod y berfau a'r adferfau'n cysylltu gyda'i gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr!

3. Ansoddeiriau - gair sy'n disgrifio enw

e.e.
Ton enfawr
Cymylau gwynion
Llewod rheibus

Beth am greu cerdd yn llawn ansoddeiriau yn sôn am deimladau gan ddilyn y patrwm hwn:

* Ysgrifennwch enw.

* Ysgrifennwch ansoddair sy'n disgrifio'r enw.

* Ysgrifennwch ansoddair arall sy'n disgrifio'r enw.

* Ysgrifennwch gymhariaeth (fel...) sy'n disgrifio'r enw.

* Ysgrifennwch yr enw eto.

Dyma enghraifft i chi:

Haul
felen,
fawr,
fel pelen ddisglair.
Haul.

4. Cymariaethau - dau beth yn cael eu cymharu er mwyn creu effaith arbennig. Mae bardd yn aml yn defnyddio cymhariaeth er mwyn tanlinellu, pwysleisio neu dynnu sylw at rywbeth arbennig.

e.e.
Coch fel y tân
Du fel y frân
Yn dawel fel llygod

5. Trosiadau
Mae bardd yn gallu dweud bod rhywbeth yn rhywbeth arall o bryd i'w gilydd er mwyn creu delwedd effeithiol.

e.e.
lleuad yn bêl
cawr o ddyn
boncyffion o goesau

Gwnewch restr o'r trosiadau yn y llinellau nesaf:

A'r lleuad yn bel lachar yn disgleirio.

Yr hen wraig yn ddafad golledig yn crwydro.

Y tractor yn y pellter.

Malwoden goch yn araf ddringo'r allt.

6. Personoli - pan mae bardd yn disgrifio rhywbeth sydd ddim yn ddynol fel person byw.

e.e.
Dail yn sibrwd
Bwrdd yn gwichian
Tonnau yn cusanu'r traeth

News image