CA2 Creu Cerdd - Cerddi siâp

Dyma i chi enghraifft o gerdd siâp am y glöyn byw:

Beth yw cerdd?

Cerddi sy'n defnyddio siâp yn ogystal â geiriau i ddisgrifio ydy'r cerddi hyn.

Mae'n debyg eich bod chi wedi sylwi bod rhythm yma ond dydy o ddim yn rhythm sy'n dilyn patrwm penodol.

Dydy'r llinellau ddim yn dilyn patrwm odli.

Cydweithiwch gyda phartner.

1. Beth am i bartner un ddewis pwnc e.e. gwylan/malwen, a phartner dau i ysgrifennu cerdd yn dilyn siâp y pwnc hwnnw.
2. Beth am i bartner dau ddewis siâp penodol ac i bartner un ysgrifennu cerdd ar unrhyw bwnc o fewn y siâp penodol hwnnw.

Darllenwch a dangoswch eich cerddi siâp i weddill y dosbarth. Efallai bydd eich athro neu'ch athrawes yn gallu dathlu eich gwaith mewn Blodeugerdd Dosbarth!

News image