CA2 Creu Cerdd - Cerddi mydr ac odl

Wrth ddweud y gair Caerdydd rydych chi'n pwyso mwy ar "dydd" nag ar "Caer".

Wrth ddweud y gair ysgolion rydych chi'n pwyso mwy ar "gol" nag ar "ys" a "ion".

Mae 'na bwysau trwm neu ysgafn ar bob sillaf ym mhob gair. Dyna sy'n rhoi mydr i ni.
Mae posib dangos trwm ac ysgafn efo dau symbol:

Beth yw cerdd?

Felly, ystyr y term mydr yw pan fod pwysau trwm ac ysgafn yn cael ei ailadrodd ym mhob pennill.

Edrychwch eto ar y pennill hwn.

Beth yw cerdd?

Mae'r un patrwm o drwm ac ysgafn ym mhob llinell. Felly mae 'na batrwm i'r mydr.

Beth ydy odl?

Geiriau sy'n swnio'n debyg i'w gilydd ydy odl. Ym aml mewn cerdd mae geiriau sy'n odli ar ddiwedd llinellau. Mae coch a moch yn swnio'n debyg felly maen nhw'n odli.

Dyma i chi rai enghreifftiau eraill:-

glas + blas
rhos + nos
dydd + cudd
ben + pren
byd + gyd

Ydych chi'n gallu meddwl am eiriau sy'n odli?

Edrychwch eto ar y pennill hwn. Mae'r geiriau sy'n odli ar ddiwedd pob llinell.

Beth yw cerdd?

Sut mae dangos patrwm odli?

Un ffordd dda o ddangos patrwm odli ydy defnyddio llythrennau cynta'r wyddor - a, b, c.

Edrychwch ar y geiriau olaf yn y pennill nesaf:

Beth yw cerdd?

Y patrwm ydy abab gan fod 'las' a 'ras' yn odli, a 'mawr' a 'llawr' yn creu odl arall.

Dyma eiriau olaf pennill arall:
...............gwyn
...............llyn
...............oer
...............lloer

Beth ydy patrwm odli y pennill?

A beth ydy patrwm odli Y Bachgen o Ystradfellte? Ewch nôl i weld!


Darllenwch y penillion isod, yna meddyliwch am air i orffen y gerdd fel bod patrwm abcb yma!

Rwy'n mynd i dref Llandudno
Am wythnos yn yr haf
I chwarae yn y tywod
Os bydd hi'n dywydd ____.

Hen ffarmwr bach o'r Bala
A aeth am dro i'r dre
Ond O! roedd wedi blino
Ymhell cyn amser ___!

Ewch ati i gwblhau y pennill hwn gan ddilyn yr un patrwm.

Mi welais gi bach melyn
Yn eistedd wrth y drws,

News image