 | 
Os Mets, gan Bethan Gwanas
Mae Ann ar fin priodi Dylan. Ond rhaid iddi fynd ar benwythnos cwennod cyn priodi. Hanna, ei mêt gora, sy wedi trefnu pob dim ac mae Hanna'n nytar. Limousine i Gaer? Dim ffiars o beryg! Canŵs a dringo a ryw lol fel'na sydd wedi ei drefnu, a dydi'r criw ddim yn hapus. Ond diawch, mae 'na hwyl i'w gael yn y diwedd - ac ambell gath yn cael ei gollwng o'r cwd. Fyddan nhw byth, byth yn anghofio'r penwythnos hwn. Gwybodaeth pellach Am yr awdur
Mae Bethan yn byw yn Rhyd-y-main, Meirionnydd ychydig filltiroedd o fferm Gwanas lle'i magwyd. Mae wedi ennill gwobr Tir na n-Og ddwywaith - y tro cyntaf yn 2001 am Llinyn Trôns a'r ail yn 2003 am y nofel Sgôr a gyd-ysgrifennodd gyda chriw o ddisgyblion ysgol. Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw Fy Ffrind restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.  |
 | 
Y Rhwyd, gan Caryl Lewis
Mae Meic mewn cariad â'i wraig, Eirlys, ac wrth ei fodd gyda'i ddau blentyn ifanc, Beca a Jac. Pam yn y byd mae e'n chwilio am y 'rhywbeth bach ecstra' 'na? Ond mae rhyw ysfa ynddo i fynd ar y trips 'gwaith' dros nos. Oes unrhyw syniad gan Eirlys bod Meic yn trefnu ei 'rywbeth bach ecstra' ar y we? Bod ei gŵr yn rhoi rhaff i'w ffantasïau ac yn manteisio ar ddyheadau rhywiol rhes o ferched. Ydy Eirlys yn amau pam mae ei gŵr yn mynd bant dros nos? A Paul, ffrind gorau Meic, a ffrind i Eirlys ers pan oedden nhw'n blant - beth yw ei rôl e ym mywyd Meic a'i deulu? Druan o Meic, mae'r rhwyd yn cau amdano mor sydyn ac mor annisgwyl. Ond bydd y cyfan yn glir erbyn y diwedd Gwybodaeth pellach Am yr awdur
Daw Caryl yn wreiddiol o Ddihewyd ger Aberaeron. Enillodd Iawn Boi?:-) Wobr Tir na n-Og 2004 a dewiswyd ei nofel Martha, Jac a Sianco yn Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae hi wrth ei bodd yn ei hamser hamdden yn arlunio a bwyta Maltesers  |
 | 
Tacsi i'r Tywyllwch, gan Gareth F. Williams
Dau gorff i ddechrau. Anodd eu nabod o ganlyniad i'r tân.
Ac mae llaw hefyd, yn perthyn i gorff arall. Ond mae'r heddlu'n datrys y problemau hyn yn ddigon hawdd. Y broblem yw PWY wnaeth e, a PHAM? Mae'r heddlu'n meddwl eu bod yn gwybod PAM. Ond does dim llawer o brawf. Ac maen nhw'n nabod y rhan fwyaf o'r lladron, gwerthwyr cyffuriau, mygyrs a bwlis. Felly mae PWY yn broblem anodd. Ond un gair o gyngor! Gwyliwch rhag yr un sy'n teithio yn y tacsi. Gwybodaeth pellachAm yr awdur
Ag yntau'n enedigol o Borthmadog, mae Gareth F. Williams yn awdur amser llawn ers blynyddoedd. Bu'n sgriptio rhaglenni i blant gydag HTV ac mae'n un o'r rhai a greodd gyfresi teledu Pengelli a Rownd a Rownd i S4C. Mae wedi ysgrifennu 13 o sioeau cerdd ar gyfer y llwyfan a chyhoeddi sawl nofel.  |
 | 
Y Jobyn Gorau yn y Byd, gan Gary Slaymaker
Pwy yw'r person lwcus sy 'di cwrdd â Stan Lee, y gŵr a greodd y comics Spider-Man, yr Incredible Hulk a'r Fantastic Four? Pwy aeth i Hollywood a chwrdd â Clint Eastwood yno, a dweud 'olreit, lyf' wrth Charlize Theron? Pwy gafodd brynhawn ar y pop yn Efrog Newydd yng nghwmni Rhys Ifans? Mae e'n nabod Gareth Edwards, ac yn cefnogi tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cardiff City. Hefyd, wrth gwrs, mae e'n dwlu ar fynd i weld ffilmie, siarad am ffilmie a dweud ei farn yn blaen wrthon ni ar y bocs. Wel, chi'n gwbod yn iawn nawr hanes pwy sydd yn y llyfr 'ma! Gwybodaeth pellach Am yr awdur
Cafodd Gary Slaymaker ei eni ym mhentref Cwmann, ger Llanbedr Pont Steffan ond mae'n byw bellach yng Nghaerdydd. Mae'n wyneb adnabyddus ar S4C gyda'i raglen adolygu ffilmiau, Slaymaker, ac mae'n golofnydd wythnosol i'r Western Mail.  |
|