|  |
 |  |  | Tips 2007 Pwy fydd yn fawr eleni? Ionawr 4, 2007 Derwyddon Dr GonzoPwy fydd yn fawr yn 2007? Pa fandiau fydd wedi creu argraff arnon ni erbyn diwedd y flwyddyn yma? Dyna ofynodd Huw Stephens i Guto Brychan, Owain Schiavone, Esyllt Williams a Dyl Mei ar ei raglen nos Fercher, a dyma eu tips nhw ar gyfer 2007: Guto Brychan (Trefnydd Maes B)
Derwyddon Dr Gonzo Band ifanc o Wynedd, ddaeth i amlygrwydd ar ôl ennill Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Eryri 2005. Darlledwyd sesiwn gan y band ar C2 ym mis Ionawr 2006, a rhyddhawyd yr Ep 'Ffandango' ganddynt ym mis Mai llynedd. Y Rei Prosiect newydd Aron Elias, gynt o Pep le Pew - gyda Rich ac Alex o Gola Ola. Ers recordio sesiwn i C2 fis Gorffennaf llynedd, a rhyddhau CD 'nifer cyfyngedig' yn ystod yr haf mae'r Rei wedi bod yn gigio'n gyson ac yn brysur wneud enw i'w hunain fel un o fandiau mwyaf 'ecseiting' y SRG.She's Got Spies Band newydd o Gaerdydd, sydd ddim ond wedi bod hefo'u gilydd ers mis Tachwedd '06. Maen't yn dweud ar eu tudalen myspace eu bod eisioes wedi ysgrifennu dros 70 o ganeuon, ac wedi recordio rhai ohonynt dros y Nadolig. Maen't yn gobeithio cychwyn gigio ym mis Chwefror... gwyliwch y gofod hwn! Llan Clan Un o fandiau ifanc Blaenau, sydd eisioed wedi ymddangos ar CD amrywiol cyntaf 'Y Gwallgofiaid' a chyraedd rownd derfynnol Crwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru llynedd. Bydd CD newydd 'Y Gwallgofiaid' allan yn y Gwanwyn, felly edrychwch ymlaen i glywed rhagor am Llan Clan. Gareth Bonello Artist unigol sydd hefyd yn gweithio dan yr enw Gentle Good. Mi fydd albwm newydd yn cael ei ryddhau ganddo yn ystod y flwyddyn, ac mi fydd yn siwr o fod yn brysur yn gigio er mwyn ei hyrwyddo.Owain Schiavone (Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith)
Yucatan Er mai dim ond yn gymharol ddiweddar y mae Yucatan wedi dod i amlygrwydd, maen't wedi bod hefo'u gilydd ers rhyw flwyddyn a haner. Bu'r band allan yng Ngwlad yr Iâ rai misoedd nol yn cymysgu traciau hefo aelodau Sigur Ross, a bydd eu halbym gyntaf allan ar label Slacyr o fewn y misoedd nesaf. Y Rei Tipiodd Owain - fel Guto - y band yma o Port. Ewch i'w gweld yn fyw - cerddorion gwych a chaneuon 'catchy'... beth gewch chi'n well!Radio Luxembourg Rhyddhawyd y sengl wych 'Os Chi'n Lladd Cindy' ganddynt yn ystod yr Eisteddfod yn Abertawe llynedd, ond 2007 fydd y flwyddyn fawr i Radio Lux, gyda dwy Ep a thaith hefo Euros Childs yn cael eu crybwyll. Texas Radio Band Mae bron i dair mlynedd wedi mynd heibio ers iddynt ryddhau 'Baccta Crackin' ond mae Mini bellach nol o Spaen ac mi fydd yr albym newydd 'Gavin' yn cael ei rhyddhau yn fuan.Esyllt Williams (Rheolwr label Ciwdod)
Al Lewis
Artist sy'n rhyddhau ei albwm 'More Ways than One' ar i-tunes ar y 5ed o Chwefror, ac sydd newydd recordio sesiwn acwstig ar gyfer Lisa Gwilym (pan oedd hi yn cadw sedd Dylan a Meinir yn gynnes dros y Nadolig). Mae'n gobeithio rhyddhau EP Cymraeg yn ystod y flwyddyn, a bydd yn gigio yn gyson - yn enwedig yng Nghaerdydd a Llundain.Threatmantics
Mae Esyllt yn mynd i fod yn cyd-weithio hefo Threatmantics dros y misoedd nesaf, pan fyddant yn rhyddhau sengl ar label Ciwdod. Ar ôl gweld set byw gan y DJ Dyl Bili a'i fand yn Miri Madog y llynedd, mae Esyllt yn edrych ymlaen i glywed stwff newydd ganddo yn 2006.Brigyn (eu stwff techno newydd)
Mae Ynyr ac Eurig wedi bod yn cyd-weithio hefo Llwybr Llaethog ar ambell i fics o ganeuon y band - Os Na Wnei Di Adael Nawr yn un ohonynt. Mae Esyllt yn meddwl y bydd ychydig o newid arddull i ganeuon Brigyn yn 2007, ac mae'r gân Buta Efo'r Maffia yn arwydd o'r ffordd mae pethau am fynd. Dyl Mei (Cynhyrchydd)
Eitha Tal Franco Dyma brosiect rhai o aelodau y band Zootechnics. Gwelodd Dyl Mei nhw'n gigio yn ddiweddar, ac wedi mwynhau eu perfformiad. Mae yna agweddau shambolic ond prydferth i'w caneuon!Y Gwyddel Prosiect unigol Conor o'r band Plant Duw, sydd eisioes wedi cychwyn gigio. Mae Dyl yn cymharu arddull ei ganeuon fel 'Alun Tan Lan ryff'! Does wybod a fydd Y Gwyddel yn rhyddhau unrhywbeth yn ystod 2007, ond mae cynnig wedi cael ei wneud i Conor gan Dyl Mei eisioes.Yucatan Fel Owain, mae Dyl Mei yn rhagweld blwyddyn brysur i Yucatan. Byddant yn cefnogi Y Rei yng Nghlwb Ifor Bach ar Nos Sadwrn Ionawr 27. Am yr holl gigs diweddaraf ewch draw i dudalen gigs C2.Derwyddon Dr Gonzo Tip arall i chdi wylio allan am flwyddyn fawr gan y band ska-ffync ifanc o Wynedd. Gyda dylanwad cryf Gwilym Morus (y cynhyrchydd) ar Ffandango, fydd au harddull yn newid rhywfaint gyda dylanwad eu cynhyrchydd newydd Ed Holden? Beat-bocsio, rapio a free-stylio ella?!
Am fwy o fanylion am CD's newydd cliciwch yma.
|  |
|