Teyrngedau i'r gitarydd
Mehefin 20, 2005
Cofio'r Cerddor
Nos Lun Mehefin 20, mi oedd yna raglen arbennig ar C2 rhwng 2200 a 2300 yn dathlu bywyd a thalent cerddorol y gitarydd Tich Gwilym.
Gwesteion Huw Stephens oedd Geraint Jarman, Siân James, Siôn Jones (Maffia) a Owen Powell (Crumblowers a Catatonia). Mae yna gyfle i chi ail glywed gwesteion Huw yn hel atgofion am Tich drwy glicio ar enwau'r cyfranwyr isod:
Geraint Jarman (rhan gyntaf)
Geraint Jarman (ail ran)
Siân James
Siôn (Maffia) Jones - Rhybudd: Iaith Gref
Owen Powell
Geraint Jarman yn darllen cerdd deyrnged Prysor
Drwy gydol y nos a thrwy'r wythnos bu llawer yn cysylltu â'r rhaglen gyda'i negesuon a'u hatgofion am Tich. Dyma rai
ohonyn nhw:
Ar donfedd hen wlad fy nhadau, fe fydd
Cymru fach a'i chlustiau
fin hwyr yn dal i fwynhau
dewiniaeth sain dy dannau.
Llion Jones, Penrhosgarnedd, Gwynedd
Tich a cherddorion Jarman chwistrellodd y sîn roc Gymreig gydag egni newydd diwedd y 70au a dechre'r 80au. Dangoswn nhw bod y sîn Gymreig yr un mor flaengar a dyfesigar ag unrhyw sîn arall. Ysbrydolwyd cyment o gerddorion ifanc, a chynulleidfaoedd led led Cymru. Roedd gwylio Tich yn chwarae yn wledd, roedd y bachan yn un â'i gitar, roedd chwarae yn rhywbeth elfennol iddo, yn rhan annatod o'r dyn bach yma, oedd wastad yn llwyddo i'ch syfrdanu. Ei di ddim yn angof.
Graham
Diolch Tich. Yr Satriani Cymraeg!
Dafydd Foxhall
Tich oedd y gwir gitar hero Cymraeg! Dwi'n cofio ei glywed yn canu yn Plas Coch Ynys Môn a dotio at ei ddawn ar y strat. Cefais chwarae efo fo mewn cyngerdd roc yn y Coal Exchange yn Gaerdydd yn 2002. Diolch am ei fiwsig a'i fywyd.
Arfon Wyn
Dim ond unwaith weles i Tich yn fyw ond 'odd ei fersiwn e o'r anthem, ar ben ei hun ar ddiwedd y set yn wych.
*Finch
Roedd hi'n fraint ac ysbrydoliaeth gweithio hefo Tich. Colled enfawr.
John Griffiths, Llwybr Llaethog
Hoffwn dalu fy nheyrnged bersonol i un o gitaryddion mwyaf athrylithgar Cymru. Fe fues i'n ddigon ffodus i chwarae gyda Tich ar rai achlysuron - gyda Sian James a Iwan Iwcs. Ar ôl dod i'w nabod roedd o'n hoff o nghyfarch drwy ngalw'n proff - 'how are you proff?' dwedai...roedd hyn yn destun embaras llwyr i mi - os oedd rhywun yn haeddu cael ei alw'n proff yna Tich oedd o! Ond dyna'r math o berson oedd Tich - hollol ddidwyll, hollol onest.
Y tro olaf i mi weld Tich oedd ar set Emyn Roc a Rol - roedd yn actio bod yn Tich Gwilym. Yn anffodus nid oes unrhyw un arall a all fod yn Tich - dim ond ef ei hun. Roedd yn gitarydd a pherson hollol unigryw.
Rydym i gyd yn meddwl amdanat Tich.
Pwyll ap Siôn
Dim ond eisiau dweud diolch am rhaglen wych neithiwr yn talu teyrnged i Tich Gwylim. Roedd e'n hyfryd clywed traciau prin yn enwedig "Crossroads" Robert Johnson yn dangos talent amrwd y dyn. Roeddwn newydd orffen darllen llyfr ar John Peel ar y pryd, a meddyliais falle bod gobaith i radio wedi'r cyfan pan mae emosiynnau bobl yn gallu dod ar draws mor di-dwyll fel y gwnaeth e neithiwr. Diolch Huw am neud beth does dim digon o DJ's yn neud - gwrando - weithiau beth sydd ddim yn cael ei ddweud sydd mwya' pwysig...Teyrnged haeddiannol i'r dyn, heddwch i'w lwch.
Rhys, Llanpumsaint.
Roedd Tich yn arwr mawr i ni pan oedden ni'n griw ifanc a ges i'r fraint o gwrdd a fo cwpwl o weithiau'n weddol ddiweddar. Person hyfryd iawn.
Bydd colled mawr ar ei ôl. Mi fyddaf i a Phil (drymar Vates) i fyny ar ben y Moelwyn heno yn aros i'r wawr godi ar y diwrnod hiraf. Byddwn yn codi gwydryn a tanio smôc bach i'r cawr bach o'r Rhondda.
Trist y dydd, heddiw.
Dewi Prysor
Mae yna lyfr teyrngedau arbennig wedi agor ar safle BBC Cymru'r Byd, os hoffech chi dalu teyrnged i Tich yna cliciwch yma.