Y Cyrff ar C2 Rhaglen arbennig Medi 21, 2005 Paul a Mark yn stiwdio C2
Ar nos Fercher Medi 21 fe gyflwynodd Huw Stephens rhaglen arbennig am Y Cyrff ar C2, Radio Cymru. Daeth Mark Roberts a Paul Jones o'r Cyrff i'r stiwdio i drafod y box-set newydd Atalnod Llawn ac i ddewis eu hoff ganeuon.
Gwesteion eraill y rhaglen oedd Owen Powell (aeth ymlaen i ffurfio Catatonia gyda rhai o aelodau'r Cyrff), Toni Schiavone (cyn-athro i'r Cyrff roddodd lwyfan cynnar i'r band) a'r cerddor Alun Tan Lan (cyfaill ac un sydd wedi'i ddylanwadu gan Y Cyrff).
Dyma gyfle i chi glywed sgyrsiau estynedig (sy'n cynnwys darnau na chafodd eu darlledu ar y rhaglen):