BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageRhys Mwyn ar C2
Cyfres newydd gyda'r hyrwyddwr a cherddor

Pob nos Fercher am 10pm ar C2 Radio Cymru.

Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf

» Manylion rhaglen 1

Bu'n ddraenen barhaus yn ystlys y byd cyfryngol, saff Cymraeg ac yn gyson feirniadol o S4C a BBC Radio Cymru. Nawr mae'r hyrwyddwr a'r cerddor Rhys Mwyn yn cael cyflwyno ei raglen radio ei hun ar C2!

"Os ti'n cega'n ddigon hir fe gei di raglen," dywedodd Rhys gan chwerthin.

"Dwi'n edrych mlaen yn arw i roi sylw dyledus i bethau sydd ddim yn cael eu clywed fel arfer. Cerddoriaeth fwy tanddaearol, fwy arbrofol a chaneuon sydd heb gael eu chware'n gyhoeddus cyn hyn."

"Ro'n i'n mynd trwy recordiau'r noson o'r blaen ac fe ddes ar draws feinyl y Llwybr Llaethog a gafodd ei ryddhau yn America yn unig. Bydd pobl yn gyfarwydd â stwff y band wrth gwrs, ond dwi'n amau a fydd pobl 'di clywed y caneuon yma."

Mae Rhys wedi cyfrannu'n fwy na neb at y sîn Roc yng Nghymru dros y blynyddoedd. Bu'n aelod o'r grwp chwyldroadol Anrhefn ac ef oedd y cyntaf i fynd â cherddoriaeth Cymraeg ar daith trwy Ewrop. Mae wedi rheoli degau o fandiau a threfnu cannoedd o gigs yng Nghymru a thu hwnt. Trwy ei waith hyrwyddo daeth yn ffrindiau gyda'r DJ John Peel.

"Roedd John Peel yn chwarae llawer o stwff o Gymru - nid am ei fod yn hoffi cerddoriaeth Gymraeg ond am ei fod yn hoffi'r gerddoriaeth. Fe gafodd yr Anrhefn dair sesiwn gydag e ond Datblygu oedd ei hoff fand o bell ffordd - fe wnaethon nhw ryw 10 sesiwn gydag e."

Fel y DJ arloesol o Radio 1, bydd Rhys yntau yn rhoi sylw i gerddoriaeth wahanol sydd ddim yn cael ei chwarae fel rheol. Dewis personol Rhys fydd i'w glywed yn y gyfres ac mae'r cynhyrchwyr wedi rhoi rhwydd hynt iddo - o fewn rheswm!

"Bydd un rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar gerddoriaeth reggae, un arall ar gerddoriaeth werin ac un ar gerddoriaeth electronig gyda chymysgedd o eitemau a cherddoriaeth yn y rhaglenni eraill."

"Fyddan nhw i gyd yn hwyliog ac yn ddadleuol o'r dechrau ac yn trafod y sîn roc mewn manylder a gyda dyfnder."



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy