Bandiau newydd yr SRG!
Fama clywsoch chi nhw...!
Gwyliwch y GofodErs dechrau 2007, mae Magi D wedi bod yn ymuno â Daf Du ar C2 pob nos Iau, 8pm-10pm, gan eich cadw mewn cysylltiad â'r holl goss diweddardaf o'r Sîn Roc Gymraeg, a'ch cyflwyno i fand 'Gwyliwch y Gofod' newydd pob wythnos.
Mae bandiau 'Gwyliwch y Gofod' yn rai sydd â thudalen a chaneuon ar wefan 'Myspace' ond sydd heb eto ddod i amlygrwydd eang yn y sîn.
Dyma holl fandiau 'Gwyliwch y Gofod' C2:
Andrew ap Glyn
www.myspace.com/andrewapglyn
Prosiect unigol Andrew ap Glyn o Fanceinion (ond sy'n wreiddiol o Carmel, Caernarfon), sy'n cynnwys John Cale, Brian Wilson, a Neil Young fel rhai o'i ddylanwadau.
Attuatori
www.myspace.com/attuatori
Band roc o Ddyffryn Nantlle wnaeth ffurfio ddechrau 2007, sydd hefo dylanwadau amrywiol o Iron Maiden i Edward H!
Cartilag
www.myspace.com/cartilag
Band pync-roc trwm, sy'n swnio'n flin iawn, yn galed iawn, ac yn uchel iawn!
Chwain
www.myspace.com/chwain
Prosiect unigol Meic P, gynt o Winabego ond sydd bellach yn chwarae hefo'r Ffyrc.
Chwildrop
www.myspace.com/chwildropsaff
Chwildrop yw prosiect arbrofil Robin Street a Rhydian Meilir - aelodau o Salero. Miwsig ymlaciol, hafaidd, sy'n swnio fel 'unicorn yn torri gwynt' (yn eu hol nhw)!
Creision Hud
www.myspace.com/creisionhud
Be mae dewin yn ei fwyta i frecwast? Creision Hud! Indie-roc, a thiwns bach neis.
Cyrion
www.myspace.com/cyrionmusic
Electronica amgen gan Rhodri Owen - aelod o Yucatan. Mae'n gweithio ar set byw gyda drymiwr a basydd ar hyn o bryd, felly disgwyliwch weld Cyrion yn fyw yn fuan.
Dail Gwair
www.myspace.com/dailgwair
Band eithaf acwstig eu naws, wnaeth ffurfio yn ardal Bala yn y nawdegau, ond sydd wedi ail-gydio ynddi wedi peth newid aelodau.
De Mask
www.myspace.com/demask
Band roc-pync o Sir Fôn, oedd yn gystadleuwyr ym Mrwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru 2006. Nemo yw enw'r gitarydd... MAE NHW WEDI EI FFEINDIO FO!
Dybl-L
www.myspace.com/dybll
Hip-hop o Dalysarn, ac mae Huw Stephens wedi bod yn chwarae'r trac 'Y Cam Nesaf' yn rheolaidd ers iddynt fod ar 'Gwyliwch y Gofod'.
Endaf Presley
www.myspace.com/endafpresley
Prosiect acwstic-pop Endaf o Kentucky AFC. Rhowch o 'mlaen, gwisgwch eich slipars, ac ymlaciwch.
G.o.M.
www.myspace.com/gwallgofiaid
Un arall o fandiau ifanc ardal Blaenau sy'n rhan o stabl y Gwallgofiaid. Beth yw ystyr G.o.M.? Dyda ni ddim yn gwybod... a dydi'r band ddim chwaith. Roc a rol!
Gwirioneddol
www.myspace.com/gwirioneddol
Band 3-aelod o Benrhyndeudraeth, sy'n gymysgedd o ska/roc/reggae. Stwff da.
Heretica
www.myspace.com/hereticaport
Un o fandiau Y Gwallgofiaid, daw Heretica o ardal Porthmadog, a daethant at eu gilydd i geisio gwneud band i ddod a thipyn mwy o roc caled i mewn i'r Sin Roc Gymraeg.
Hogyn Da
www.myspace.com/hogynda
Prosoect unigol Ifan Dafydd o'r band Dwerwyddon Dr Gonzo. Band un dyn hefo gitar-acwstig a llais, a chydig o accordion a stwff arall.
Iglw
www.myspace.com/iglw
Band pedwar aelod o ardal Caerfyrddin, sy'n disgrifio eu harddull fel 'indie' ac yn mynd i fod yn rhyddhau eu EP cyntaf ar label RASP dros yr haf.
Karac
www.myspace.com/karacmusic
Band roc-ysgafn o Gaernarfon, gyda Steve 'Pablo' Jones - cyn aelod o'r grwp 'Y Profiad' ar y gitar.
Mesa
www.myspace.com/mesamesamesa
Band arbrofol sy'n cyfansoddi stwff acwstig-melodig tebyg i Yucatan.
Messner
www.myspace.com/messner
Messner yw Owain Roberts o Fangor, sy'n chwarae cerddoriaeth acwstig-amgen.
Nemesia
www.myspace.com/nemesiaband
Y band yw Dylan, Alz a Kriz o Ynys Môn. Roedden nhw arfer mynd o dan yr enw "The Unknowns" cyn newid i Nemesia (sy'n flodyn gyda llaw!). Ma nhw wedi eu arwyddo i label Hitbycar Records Ltd.
No Carona
www.myspace.com/nocarona
Ffurfiodd y band yma o Fangor wedi i 'Tonfedd Rhyfedd' chwalu, i Sion adael ei fand 'Gang Guevara'... ac i Cynon dod allan o'r cwpwrdd.
Plyci
www.myspace.com/plyci
Plyci yw Gerallt Ruggiero o Rhyl / Caerdydd, sy'n chwarae stwff electronica. Bydd sengl gyntaf Plyci allan ar label Ciwdod ar Orffennaf 16.
Rafters
www.myspace.com/raftersukmusic
Band roc meddal o Langefni - Huw, Iago, Gerallt, Trystan a Sion.
Wedi bod yn gneud cyfars ond yn canolbwyntio nawr ar gyfansoddi stwff eu hunain.
Random Elbow Pain
www.myspace.com/randomelbowpain
Un o gystadleuwyr Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru 2007 - band ska-roc o Gaerdydd. Gwyliwch y gofod yn sicr - maen't yn wych!
Segur
www.myspace.com/segur
Roc-seicadelic, ac mae'r drymiwr - Dafydd Faxhall - yn aelod o un arall o fandiau Gwyliwch y Gofod - Y Promatics.
Slapar
www.myspace.com/slapar
Roc-indie gan Dan, Elidir, Meredydd, Paul a Stewie o Gaernarfon. 2007/2008 fydd y flwyddyn i'r Slapars!
Starsci
www.myspace.com/starsci
Band roc-pop o Rydaman, sy'n gweithio ar eu albym cyntaf fydd allan yn fuan ar label Rasp. Mae'r prif ganwr - Gareth Jewell - yn gyn aelod o'r bach-fand Max-N.
Stilletoes
www.myspace.com/thestilletoes
Thrî-pîs pync o Benllyn, gyda agwedd yn llifo dros yr ochrau! Dywedodd Rhys Mwyn mai 'Efa (y prif-leisydd) ydi'r unig berfformiwr allan yna yn y SRG'. Gallwch glywed eu Sesiwn C2 ddiweddar trwy glicio yma.
Tom Winfield
www.myspace.com/tomwinfieldmusic
Artist unigol o Lantrisant, wnaeth ddefnyddio'r gerdd 'Er Cof Am Kelly' gan Menna Elfyn fel geiriau i'r gan. Gallwch gysylltu ag ef i gael CD am £2...
Y Cyfrinachwyr
www.myspace.com/ycyfrinachwyr
Roc-arbrofol hynod, hynod o gyfrinachol gan gasgliad o gerddorwyr sydd wedi dod at eu gilydd i gyfuno syniadau cerddorol o bob math. Pwy yw'r Cyfrinachwyr? Pwy a wyr!
Y Ffernols
www.myspace.com/yffernols
Deuawd acwstig o Aberystwyth. Yn eu geiriau eu hunain "Nid yw Y Ffernols yn debyg i unhryw broject solo arall sydd erioed wedi bodoli, y prif reswm dros hyn yw oherwydd fod dau ohonom!"
Y Promatics
www.myspace.com/thepromatics
Band Indie-roc o Ddyffryn Nantlle, sydd wedi newid cyfeiriad rhywfaint o ran naws eu caneuon yn ddiweddar. Mae eu drymiwr - Dafydd Faxhall - hefyd yn chwarae i un o fandiau eraill Gwyliwch y Gofod - Segur.
Yr Annioddefol
www.myspace.com/yrannioddefol
Band reggae/roc/pop o Flaenau Ffestiniog - un o gystadleuwyr Brwydr y Bandiau C2/Mentrau Iaith Cymru 2007, sydd bellach wedi rhyddhau eu albym cyntaf 'I Ryfel es Di'.
Yr Ods
www.myspace.com/yrods
Cyfarfu Griff Lynch a Gruff Pritchard yn y coleg yn Aberystwyth, ac mae Yr Ods 'yn mynd i chwalu dy ben, sbeitio dy dad, a rhamantu dy fam...' yn ôl y son.
Ydi'ch band chi yn haeddu sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod? Gyrrwch fanylion y band a chyfeiriad eich tudalen myspace i:
[email protected]