Malcolm yn mynd â hi!
Malcolm AllenLlongyfarchiadau mawr i'r sylwebydd Malcom Allen am ennill Sgorgasm y Flwyddyn 2007.
Bob nos Fawrth ar C2 ma' Dylan Ebenezer a Dafydd Du yn penderfynu pa un o sylwebwyr chwaraeon Radio Cymru sy'n llwyddo i gyrraedd yr uchelfannau wrth sylwebu ar gemau'r wythnos.
Bob wythnos ma un darn o sylwebaeth yn cael ei choroni yn Sgorgasm yr Wythnos a'r sylwebydd lwcus yn cael y clod â'r bri sy'n mynd law-law â'r teitl yma.
Ond bellach mae tymor y sgorgasms ar ben, ac fe ofynodd C2 i chi benderfynu pa sylwebydd nath daro cefn y rhwyd eleni. Fe bleidleisioch chi yn eich cannoedd - a chyda 69% o'r bleidlais, penderfynoch chi mai sylwebaeth Malcolm oedd yn haeddu'r teitl Sgorgasm y Flwyddyn!
Mi fydd Dylan Ebenezer nol ar C2 gyda'r diweddara o'r meysysdd chwarae, y gwobrau, y tabloids a'r sgorgasms wrth gwrs, ganol Awst.
Dim ots pa siâp yw'ch peli chi, C2 Nos Fawrth yw'r lle i fod!
Gwrandewch ar y 4 sgorgasm oedd ar y rhestr fer:
Mike Davies
Ian Gwyn Hughes
Nic Parri
Malcolm Allen