Proms Trydanol 2006
Genod DroogBydd angen rhaglen RealPlayer i glywed y clipiau. Cliciwch yma am fanylion sut i lwytho RealPlayer.
Dydd Sul, 29 Hydref 2006, cynrychiolodd y Genod Droog a'r artist Spencer McGarry Gymru yn y Proms Trydanol yn Llundain - y digwyddiad cyntaf o'i fath - a nos Fercher (Tachwedd 1) ar C2, Radio Cymru oedd cyfle i glywed rhaglen arbennig yn dilyn taith y Genod Droog o Gaernarfon i Lundain, a chlywed caneuon o'u set byw.
Dewiswyd y Genod Droog nôl ym mis Awst, gan guro cystadleuaeth gref gan Frizbee, Mattoidz, Cofi Bach a Tew Shady, a David Mysterious. Syniad buddugol Genod Droog oedd "gweithio gyda threfnydd adnabyddus ag uchel ei barch ynghyd â chôr a cherddorfa er mwyn ehangu ar sain y Genod Droog mewn modd dramatig........"
Cynhaliwyd gweithdy lwyddiannus iawn yn y Galeri yng Nghaernarfon gyda'r trefnydd cerddorol Gill Edwards ag aelodau o Ensemble Cymru nôl yng nghanol mis Hydref, a chyrhaeddodd yr holl ymarferion a gwaith caled yr uchafbwynt yn Llundain dros y penwythnos.
Gallwch glywed sgyrsiau estynedig o raglen y Genod Droog yn y Proms Trydanol drwy glicio ar y lincs isod:
Nei Karadog a Jeni Lyn
Berwyn Trwmped a Jeni Lyn
Geth Evs a Jeni Lyn
Ed yn y Barfly, Camden cyn perfformio

Lluniau
Proms Trydannol
Hydref 29 2006
LluniauGweithdy y Proms
Hydref 13-15 2006
Setlist Genod DroogBeth oedd eu set?
Barfly, Camden