Siwrne CD Sesiynau
Ble ma' nhw 'di cyrraedd?
Gafodd 2 gopi arbennig o CD Sesiynau C2 eu rhoi i Ynyr ac Eurig o Brigyn ar nos Fercher, Hydref 27ain. Dyma oedd cychwyn taith dros Gymru - ac o bosib y byd - y 2 gryno ddisg. Os digwydd i un o'r 2 gopi arbennig eich cyrraedd chi, gwrandewch arni cyn ei phasio ymlaen i law rywun arall. Wedi i chi wrando ar y casgliad o oreuon Sesiynau C2, ebostiwch [email protected] i ddweud pa drac sy' ore gennych.
Cofiwch adael i ni wybod beth yw rhif y CD (1 neu 2) a ble ma hi wedi cyrraedd! Cliciwch yma i weld lluniau o daith y CDs.
Dyma siwrne CD 1 hyd yma:
1. Ynyr Roberts (Brigyn) - Llanrug
Neges: "Wel, dyma ni. Mae CD1 ar ei ffordd. Yn barod mae hi 'di bod ochr arall y byd yn San Francisco! Yno yn San Francisco mi gyflwynes i'r CD i'm ffrind Shelley."
Dyddiad y neges: 22.11.05
Hoff gân: Winabego - Unarddeg Dyn i Lawr
2. Shelley - San Fransisco
Neges: Dim neges
Hoff gân: Winabego - Unarddeg Dyn i Lawr
3. Rhys - Y Fic, Llithfaen
Neges: Dim neges
Hoff gân: Texas Radio Band - Fideo Hud
4. Math - Y Fic, Llithfaen
Neges: Dim neges
Hoff gân: Llwybr Llaethog - Meddwl
5. Hefin - Y Fic, Llithfaen
Neges: Dim neges
Hoff gân: Kentucky AFC - Eitha Perig
Dyma siwrne CD 2 hyd yma:
1. Eurig Roberts (Brigyn) - Caerdydd
Neges: "Helo C2! Newyddion da ... o lawenydd mawr! Mae'r CD o Sesiynau C2 [rhif 2] wedi cychwyn ei thaith (o'r diwedd). O ran gwybodaeth, mae'r CD wedi cael ei basio ymlaen i ferch o'r enw Elin Fflur (dim y gantores o Ynys Môn gyda llaw)!!! Hwyl am y tro! Eurig (Brigyn) :o)
Dyddiad y neges: 28.11.05
Hoff gân: Gogz (The Heights) - Ffordd Hir Nôl
2. Elin Fflur Lloyd - Caerdydd
Neges: "Helo! Peidiwch â poeni an CD2 Sesiynau C2 ma Eurig newydd pasio fo mlaen i fi tua 5 munud nol, ac mi fydd o'n parhau ar daith o fewn yr wythnosau nesaf ond pwy a wyr lle fydd o ar ol hyn! Mi fydd o'n cael ei basio mlaen heno!! A deud helo wrth pawb adre'n Bala!"
Dyddiad y neges: 29.11.05
Hoff gân: Winabego - Unarddeg Dyn i Lawr
Cofiwch - os y'ch chi'n derbyn un o'r 2 copi arbennig, plîs rhowch hi i law rywun arall ar ôl i chi wrando arni - i'ch ffrind gore, i'r dyn tu ôl i'r bar mewn gig, i rywun sy ddim 'di clywed llawer o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.. jyst cofiwch ei phasio ymlaen!