 |  |  | Rhaglen Nos Wener Nos Wener 11 yr hwyr tan 1 y bore wedyn
Ar nos Wener mae pethau'n mynd yn wyllt! Mae'r penwythnos ar y trothwy ac mae'r criw yn cynhyrfu! Ar nos Wener fe fydd Steve a Terwyn yn cael cwmni aelod arall o dîm C2, sef Jeni Lyn. Mae llawer o bobl yn dweud mai hi yw'r un sy'n rhoi'r bechgyn yn eu lle! Ond dyw Terwyn ddim yn cytuno!! Tydi nos Wener ddim yn nos Wener heb shifft hwyr C2! Yn ystod y ddwy awr yma, bydd Jeni Lyn yn ymuno gyda Steve a Terwyn er mwyn codi'r tô gyda hwyl, hwyl, a mwy o hwyl. Y tonic perffaith ar gyfer cychwyn y penwythnos! Cystadlaethau gwallgof, ffeithiau diddorol yr wythnos, cwis neu ddau, a heb anghofio'r slot wythnosol - Y Mawrion! Dyma gyfle Jeni i ddod â'i mawrion allan er mwyn eu chwarae ar y peiriant CD. Ni fydd y Mawrion yn cael eu datgelu tan hanner nos ar C2! Cofiwch wrando bob wythnos felly! Mawrion nos Wener - 24 Mehefin 2005 Geraint Jarman - Etheopia Newydd Coldplay - Yellow Heather Jones - Mynd yn ol i'r dref
|  |
|