Paul a Mark - Y Ffyrc
Bydd angen rhaglen RealPlayer i glywed y sesiynau. Cliciwch yma am fanylion sut i lwytho'r rhaglen.
Artist: Y Ffyrc
Dyddiad darlledu sesiwn: Chwefror 22, 2006
Lle recordiwyd y Sesiwn: Yn yr ystafell sbâr yn nhŷ Paul!
Brawddeg am yr artist:
Prosiect newydd Mark a Paul (Y Cyrff a Catatonia gynt) yw'r Ffyrc - mae'r bechgyn yn teimlo'n gryf dros ail-gylchu... a dyna pam fod y 'Ffyrc' yn anagram o'r 'Cyrff'!
Wyddoch chi?
Mae mwy o ganeuon ar y ffordd gan y Ffyrc - gyda'r gobaith o ryddhau albwm ddechrau'r haf - ond ddywedodd Mark a Paul ddim ym mha flwyddyn!
Be nesa?
Parhau i ysgrifennu a recordio mwy o ganeuon ar gyfer yr albwm - ac yna dechrau gigio o amgylch Cymru.
Artistiaid y sesiwn:
Mark Roberts - llais, gitâr
Paul Jones - gitar fâs, llais cefndir
Hoffi hwn?
Gwrandewch ar sesiynau Y Cyrff (1991), Kentucky AFC ac Alun Tan Lan yn chwarae caneuon Y Cyrff, Briwsion.