Grŵp: No Star
Dyddiad darlledu sesiwn: Tachwedd 9, 2005
Lle recordiwyd y Sesiwn: Stiwdio Bos, Llanerfyl
Cynhyrchydd y Sesiwn: Gwyn 'Maffia' Jones (drymiwr Maffia Mr. Huws, Yr Anrhefn, Siân James etc.)
Brawddeg am y band:
Yn dod o ardal Wrecsam fe ffurfiodd No Star tua blwyddyn yn ôl ar ôl i 2 fand arall (No Retreat a Blackstar) ddod i ben - aeth No Star ymlaen i ennill Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru eleni ac mae'r sesiwn yn rhan o'r wobr.
Be nesa':
Hefyd fel rhan o'r wobr bydd No Star yn rhyddhau EP yn y flwyddyn newydd ar label Rasal, yn mynd ar daith gigs gyda Mentrau Iaith Cymru ac yn ymddangos ar y rhaglen Bandit ar S4C.
Wyddoch chi?
Ar ôl ennill Brwydr Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru aeth y band ymlaen i gipio Gwpan Coroni'r Bandiau mewn cystadleuaeth fawr yn erbyn Derwyddon Dr Gonzo, sef enillwyr Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eleni - cliciwch yma am fanylion yr ornest fawr!
Aelodau'r Band:
Robert Jones - prif leisydd + gitâr
Meurig Roberts - bas
Daniel Gibbons - drymiau
Sam Davies - gitâr
Wil Powell - gitâr + allweddellau
Genre: Roc/Metel Trwm
Gwefan y band:www.no-star.co.uk
Hoffi hwn?
Gwrandewch ar sesiynau Eryr, Poppies a Winabego.