Mozz
Bob yn ail nos Fercher mae Huw Stephens yn darlledu sesiwn sydd wedi'i recordio'n arbennig i C2, ac wythnos yma y grwp Mozz o Aberystwyth aeth i'r stiwdio i recordio traciau newydd ar ein rhan. Daeth Sam James (prif leisydd) a Dylan Hughes (allweddellau) i'r stiwdio i siarad â Huw Stephens.
Fe ennillodd y grwp gystadleuaeth ar y rhaglen deledu Uned 5 a fel rhan o'r wobr aeth y grwp i stiwdio Fflach i recordio sesiwn yn arbennig i C2.
Mae Mozz wedi chwarae mewn gigs yn Aberystwyth ac yn gobeithio chwarae mwy dros y misoedd nesaf. Bydd y grwp yn recordio fideo ar gyfer y gyfres deledu Y Sioe Fideo ar S4C yn y dyfodol agos ac yn ôl yr hogia, mae grwpiau fel Gorkys Zygotic Mynci wedi bod yn ddylanwad mawr ar eu cerddoriaeth. I glywed caneuon y sesiwn, cliciwch yma:
- Anturiaethau Ysgol Sul
- Edrych ar y Merched
- Gwerthoedd Penweddig Mae sesiynau eraill i ddod gan y grwpiau canlynol yn y dyfodol agos: Static, Anhysbys, Gwallt Mawr Penri, Kentucky AFC, Bob George, Pep le Pew, Gilespi, Acid Casuals, Martin John, Melys, Gabrielle 25.
Os ydach chi mewn grwp ac yn awyddus i recordio sesiwn i C2, anfonwch dâp/CD demo at: C2, Radio Cymru, Ystafell 2001, BBC Cymru, Llandaf, Caerdydd. CF5 2YQ neu ebostiwch [email protected]i gael mwy o wybodaeth.