Mae'n bleser gan C2 gyflwyno'r Acid Casuals - prosiect dawns o Gaerdydd - fel artistiaid sesiwn yr wythnos. Yng nghanol eu amserlen prysur a rhwng neidio o un awyren i'r llall mae'r Casuals wedi bod yn y stiwdio i recordio sesiwn yn arbennig i C2 - a nos Fercher, Ionawr 28, wnaeth Huw Stephens ddarlledu 3 trac newydd sbon.
Mae ychydig o ddirgelwch ynglyn â'r Acid Casuals - mae nhw'n dod o Gaerdydd, mae'n nhw'n cynllunio dillad sy'n cael eu gwisgo gan sêr fel Rhys Ifans a'r Super Furries a mae nhw'n gwneud gwaith celf sy'n cael ei arddangos a amgylch y byd. Ond ar y gerddoriaeth mae C2 yn canolbwyntio a mae nhw'n barod wedi creu enw iddyn nhw'u hunain yn y sîn ddawns rhyngwladol.
I glywed y 3 trac newydd ac ecscliwsif i C2 - 'Meikal Bach', 'Pobol Sir Fon' a 'Pen Piws' - cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen. Gewch chi ddim eich siomi! Am fwy o fanylion, ewch i gael golwg ar wefan ddiddorol y grwp: www.acidcasuals.com.
I ddod yn 2004 bydd C2 yn darlledu sesiynau gan Quidest, Fenks, Bob George, Gilespi, Winabago, Bechdan Jam, Bydd y Byddariaid yn Clywed, Mehefin yr Gyntaf a llawer mwy. Os ydach chi mewn grwp ac yn awyddus i recordio sesiwn i C2, anfonwch dâp/CD demo at:
C2
Radio Cymru
Ystafell 2001
BBC Cymru
Llandaf
Caerdydd CF5 2YQ
neu ebostiwch c2@bbc.co.uk i gael mwy o wybodaeth.