BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageE-gofnod y Gen...
E-gofnod Glyn a Magi
Steddfod Genedlaethol
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

Steddfod Gen'
Reit, 'Steddfod Genedlaethol 2007. Adeg yma llynedd mi o ni yn nhy'r Brawd Mawr, felly nes i golli'r 'Steddfod yn Abertawe. 'Leni mi o ni yn yr Wyddgrug o'r dydd Llun tan y nos Wener!
Mi wnes i rili mwynhau, ond dwi erioed wedi bod mor falch o adael rhywle erioed!. Nath Mam a Dad bigo fi fyny ar ol i fi a Magi orffen darlledu ar y nos Wener am 1am. Ar y ffordd adre yn y car, tra oedden ni'n dreifio drwy'r Wyddgrug nes i agor y ffenest a gweiddi ta ta yn uchel iawn.
Mi oedd hi'n braf iawn cael mynd adre i Blaenau a cael ystafell wely i gyd i fi fy hun.
Am yr wythnos mi oeddwn ni'n rhannu carafan efo Daf Du a Robin. Os fyswn ni yna awr yn hirrach, dwi ddim yn siwr iawn be faswn ni'n ei wneud.

Mi wnes i fwynhau darlledu o'r portacabin moethus yng nghefn Maes B efo Magi bob nos, mi gafon ni lot fawr iawn o hwyl!
Hefyd mi wnes i fwynhau gwrando ar setiau byw Gola Ola, Euros Childs a Mr Huw. Nes i brynu Cd Mr Huw ar stondin Sain ar y maes cyn gadael, a dwi heb stopio ei chwarae ers i fi ddod adre.

O ni bach yn gutted bo fi heb gael fy nerbyn i'r Orsedd eleni, gobeithio gai well hwyl flwyddyn nesaf. Ond, mi ges i dynnu fy llun efo rhai o'r aelodau. Os 'da chi eisiau gweld y lluniau yna ewch i adran y galeri ar safle gwe C2.

Un o'r petha' sy'n aros yn y cof am 'Steddfod Wyddgrug, ydi'r noson pan nes i ddianc drwy skylight y garafan a ffeindio fy hun ar do'r garafan. Mi oedd pawb yn meddwl bod hyn yn hilarious (efallai mai dyma pan gafodd criw C2 gwyn am fod yn swnllyd yn ystod y noson!!)
Gan ei bod hi bron yn bedwar y gloch y bore, mi wnaeth gweddill y criw fy ngadael yno a mynd i'w gwlau. Diolch Daf am helpu fi i gael nol fewn i'r garafan!!

Dwi heb gael amser i ddod dros y 'Steddfod eto, a cha'i ddim chwaith, ma'r briodas fawr mewn pythefnos a dwi ar ei hol hi braidd efo fy hyfforddiant coluro! Gewch chi'r hanes i gyd gennai'r wythnos nesaf!

Hwyl

Glyn

glyn wise

Steddfod Gen
Ma'r Steddfod ar ben am flwyddyn arall. Es i lan i'r Wyddgrug ar y nos Sul ac aros tan y dydd Sul ola. Roedd hard-core Jeni Lyn, Sian Alaw a Robin lan ar y dydd Sadwrn cynta, ond nes i gyrraedd erbyn y nos Sul. Yn hyrach na sgwennu llith am bob dydd, nai sgwennu 2 restr - uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r Steddfod. Co ni off de;

Uchafbwyntiau

  • Mwynhau yn y Glasfryn ar y nos Sul cynta
  • Y winabegos moethus
  • Gigs acwstic y maes
  • Y bar ar y maes oedd yn ofnadwy o gyfleus i'r llwyfan acwstic
  • Drymio Samba-Galles-aidd Gola Ola yn ei gig nos Lun
  • Radio Gold
  • Cawodydd cynnes
  • Osi a Mei Sibrydion.. ma nhw just moooor lyfli
  • Glyn yn gorfod gwagio'r portaloo - hilarious!
  • Iwan Standley, ein gwe-feistr yn talu £10 am blât o ffa a phys... na be chi'n cael o fod yn vegan!
  • Sioe lwyfan penigamp fi a Glyn ar y maes bob dydd
  • Perfformiad gwych Huw M ar y gitar fas ar y nos Sadwrn ola'
  • Chwerthin lot fawr iawn
  • Dwyn sglodion ffrind Jeni Lyn o siop gebabs
  • Cerddoriaeth wych drwy'r wythnos
  • Y tywydd (roedd Sian yn iawn - ma'r haul wastad yn gwenu ar yr Wyddgrug)

    Isafbwyntiau

  • Portaloos (er chware teg, Sian a Jeni nath wagio nhw)
  • Teledu lloeren y winabego ddim yn gweithio
  • Cael cwynion gan bobol ar y maes carafanau am ein bod ni'n gneud swn.. a nethon ni ddim - addo. Bai ar gam
  • Cawodydd oer
  • Yr Elsan
  • Gweld ise adre
  • Mair yn ffeindio allweddi car C2 yn ei handbag - roedd hi yn Sir Benfro ar y pryd
  • Huw Evans yn gwisgo sandalau
  • Gorfod canu carioci o flaen 50 o bobol yn ystod y sioe lwyfan achos doedd neb eise cymryd rhan yn yr her!
  • Glyn yn ffartio yn gwyneb fi - like - drwy'r amser!
  • Steddfod blws

    Reit - welwn ni chi flwyddyn nesa.. Caerdydd amdani

    M xxx



  • Gwrando Eto

    Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

    Podlediad

    Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

    Gwylia hwn!

    Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


    Amserlen C2:
    Wythnos y Cyflwynwyr

    Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy