Magi a Glyn
Dydd Llun, Mehefin 18, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd
18.06.07 - Let's Go Crazy!
Dwi bach yn annwydog wythnos yma - di gor wneud hi braidd! Ar ôl i fi orffen fy PA yng Nghasnewydd, mi oedd hi'n tynnu am 5 o'r gloch y bore arnai'n cyrraedd yn ôl i fy fflat yn Nghaerdydd. Ges i amser ffantastic yn y Clwb, a doeddwn i ddim eisiau i'r noson ddod i ben!
Nes i benderfynu ffonio Lisa (oedd yn BB hefo fi) achos o ni'n gwbod y basa hi dal i fyny, nath i suggestio be am i fi ddal y tren i fyny i Manceinion ati hi! A dyna wnes i , nes i ddal y tren cyntaf tua 8 y bore o Gaerdydd i Fanceinion a mi oeddwn i yna erbyn amser cinio!
Gafon ni amser gret! Yr unig beth, gan bo fi'n edrych ymlaen gymaint i fynd, nes i anghofio mynd a dillad glan efo fi i newid iddyn nhw!
Bore dydd Llun ges i alwad ffon gan fy asiant yn dweud fod angen i fi fynd i Dregaron dydd Mawrth ar gyfer recordio hysbyseb teledu ar gyfer Radio Cymru. Nôl felly ar y tren i Gaerdydd, mi o ni wedi blino ac oedd y syniad o deithio o Gaerdydd draw i Orllewin Cymru yn gwneud i fi deimlo fel crio!!
Ar ôl cyrraedd Tregaron mi oedd popeth yn iawn - diolch byth! Yr unig beth oedd rhaid i fi wneud oedd eistedd tu allan i'r dafarn leol a darllen papur newydd! Doeddwn i ddim yna mwy na awr, methu aros i weld yr hysbys ar y teledu rwan!
Erbyn dydd Iau, mi oedd y tonsilitis yn ôl, a mi oeddwn i'n teimlo'n miserable iawn. Mi oeddwn i'n ffilmio yn sioe gychod Abertawe dydd Iau ar gyfer BBLB, ath hi'n iawn dwi'n meddwl - edrych ymlaen i'w weld ar y teledu, neu ar youtube gan bo fi fel arfer yn colli'r rhaglen ar S4C!
Mi oeddwn i wedi anghofio'r cwbwl bo fy chwaer yn dod draw i fy ngweld dydd Gwener ar ôl iddi orffen gwaith! A'thon ni allan am fwyd a wedyn mynd i nofio, cyn i Annette a'i chariad fynd nôl fyny i'r canolbarth!
Tafwyl drwy'r dydd dydd Sadwrn, a erbyn hyn oedd y tonsilitis yn waeth! Ar ôl i fi gael bwyd a yfed digon o ddwr, o ni'n teimlo'n eitha ar gyfer y rhaglen. Adre wedyn ganol p'nawn a noson o flaen y teledu, er mwyn cael gwaraed o'r annwyd! Gobeithio fyddai'n well wythnos nesaf!
Tan tro nesaf
Glyn
xx

18.06.07 - Perez Hilton... Rili di blino'r wythnos yma. Rili angen gwyliau. Diolch i'r drefn ma fy ngwyliau hir ddisgwyliedig i Aiya Napa namyn wythnos i ffwrdd. Ond ma'r wythnos cyn mynd i ffwrdd ar wyliau wastad yn llusgo nag yw e? Fi hefdy wedi cael pwl o wylio sianel National Geographical ac yn benodol y rhaglenni Air Crash Investigation a Seconds From Disaster sydd yn amlach na pheidio yn son am ddamweiniau awyren.
Nes i wylio un raglen noson o'blaen nath ganolbwyntio ar hanes awyren British Airways oedd yn hedfan o Lundain i Awstralia a thra oedd hi filoedd o droedfeddi uwch y môr, nath y 4 injan dorri lawr a nath y jymbo ddechre plymio i'r ddaear. Odd fy mhen yn dweud "Tro'r siannel - Tro'r sianel" ond am ryw reswm doedd fy nghorff ddim yn gwrando, felly nes i aros yna i wylio'r reconstruction i gyd.
Y bit gore/gwaetha oedd pan nath y bobol ar yr awyren edrych mas drwy'r ffenest a gweld fflamau anferth yn dod o'r injans a nath mwg trwchus du ddechre llifo mewn i'r cabin. Dyma nhw'n gofyn i'r cabin-crew beth oedd y broblem a dyma nhw gyd yn ateb, "Ooo - na - does dim problem - peidiwch a phoeni, nam technegol - na'i gyd." O na - dim problem ar wahan i'r ffaith fod yr awyren yn plymio i'r ddaear ar gyflymdra o 500 milltir yr awyr!
Drwy lwc nath yr awyren lanio yn saff, ond ma meddwl am gamu ar yr awyren i Gyprus ddydd sul yn codi chydig bach o ofn arnai rhaid i fi ddweud. A nai fyth trystio cabin-crew eto chwaith.
Reit - fi off. Welai chi wythnos nesa! Gobeithio!!!
Magi
xx
O.N - Sori, dyw'r e-gofnod yma ddim byd i neud ag unrhywbeth, a dim byd i neud gyda Perez Hilton.. sori.. fi rili angen gwylie.