Magi a Glyn
Iau, Mai 31, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd
31.05.07 - Cân actol a Pizza!
Dwi wedi blino braidd heddiw - mae wedi bod yn wythnos flinedig! Ar ol dod nol o'r Steddfod p'nawn ddoe o'n i jyst isho mynd i gysgu - ond roedd gen i raglen i'w wneud hefo Daf am 8. Ges i swper yn y cantin a ron i'n teimlo'n lot gwell wedyn! Nes i aros yn stiwdio C2 ar ol y rhaglen i wylio noson gyntaf Big Brother 8 - allai'm credu fod un hogyn lwcus am gael mynd i mewn i'r ty ddydd Gwener at 11 o ferched! Nath Sian fy mhigo i, Magi a Robin i fyny bore heddiw i fynd i'r Steddfod eto. Ar ôl cyrraedd, es i o gwmpas y Maes i drio recordio cyfweliadau hefo rhagor o enwegion Cymru - ond wnes i ddim cael hyd i neb! Roedd gen i rhyw hanner awr yn rhydd cyn paratoi ar gyfer sioe lwyfan Magi a fi, felly es i draw i'r Pafiliwn Dawns i wylio rhagbrofion y gân actol - roedden nhw i gyd am Big Brother. Dim ond dau ges i amser i'w weld, ond nes i fwynhau y cyntaf yn fawr - roeddan nhw wedi rhoi Meic Stevens, Dafydd Iwan, Joe Calzaghe a Catherine Jenkins yn y ty hefo Imogen a fi, a'r stori oedd fod Imogen yn fy ffansio ond doeddwn i ddim am fynd hefo hi am ei bod yn dod o'r dê!
Aeth y sioe lwyfan yn dda iawn - er mai tîm pobl y dê ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth carioci! Dwi'n benderfynnol o ennill fory! Nes i gysgu bron iawn yr holl ffordd adref, ac roedd Magi wedi bod yn tynnu lluniau ohoni efo fy ngheg ar agor!
Ar ôl cyrraedd nol i Gaerdydd aethon ni am bizza i'r bae, a chael diod am ddim hefo 'vouchers' oedd Mair wedi dod hefo hi! Doedd hi ddim yn noson hwyr though, aeth pawb adref ar amser call - gan fod genna ni ddiwrnod trwm arall o'n blaenau fory, a dwy sioe lwyfan! .
Hwyl am y tro,
Glyn
xx

30.05.07 - Y sioe lwyfan gyntaf!
Prynhawn heddi roedd Glyn a fi yn gwneud ein sioe lwyfan gyntaf o'r wythnos - loads o blant wedi dod yna i'n gweld ni yn son am C2, Glyn yn darllen ychydig o'i lyfr iddyn nhw, a dau dim yn canu carioci i'r gân Calon gan Diffiniad. Roedd hi mor embarassing, achos roeddwn i'n gwisgo yr run ffrog ag yr roeddwn i'n ei wisgo ar y DVD ar ddechrau'r sioe!! Roedd y tywydd yn rili od heddi hefyd - roedd hi'n bwrw glaw trwm un funud, ac yna yn rili poeth a heulog y funud nesaf! Oleiaf doedd dim rhaid i fi fynd ar y waltzers eto heddiw!
Pwy sy'n gweud nag yw dynion yn ddiog? Cysgodd Glyn a Robin yr holl ffordd nol o Gaerfyrddin i Gaerdydd - ac roedden nhw'n chwyrnu! Roedd cymaint o fes yng nghefn y car - pacedi losin a chreision gwag, CD's, papurau newydd, cylchgronau porn... gwarthus!
Hwyl
Magi
xx