BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagee-Gofnod C2
Magi a Glyn
Mai 12, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

12.05.07 - O Efrog Newydd i Ben Llŷn!
Nes i dreulio penwythnos gwŷl y banc yn Efrog Newydd efo fy nheulu. Doeddwn ni erioed wedi bod yno o'r blaen, ond mi oedd y lle yn gyfarwydd iawn i mi, gan bo fi wedi gweld lot ohono ar raglenni teledu fatha Friends!

Nathon ni'r petha touristy i gyd. Aethon ni i weld y Statue of Liberty a Ellis Island, Ground Zero, Empire State a Central Park i gyd mewn 2 ddiwrnod! O n'n gobeithio cael y cyfle i fynd i siopa, cos oedd Magi di bod yn Efrog Newydd yn ddiweddara a di prynu llwyth o ddillad newydd, ond yn anffodus ges i ddim byd!!

Un peth oedd yn braf am fod yn America, oedd y ffaith bo fi'n gallu cerdded o gwmpas heb gael fy nabod! Dim ond 5 person wnaeth weiddi - 'hei it's Glyn from Big Brother!' tra oeddwn i yna!.

Dydd Mawrth es i draw i dy Myrddin ap Dafydd ym Mhen Llŷn i gael gweld copi drafft o fy llyfr 'Blwyddyn Fawr Glyn Wise' fydd allan erbyn 'Steddfod yr Urdd. Yn anffodus does yna fawr ddim signal ffôn i'w gael yn yn nhy Myrddin, felly ers mwyn cysylltu efo fy asiant, mi oedd rhaid i fi ffeindio lle uchel tu allan! Nes i osod fy ffôn ar ben car Myrddin oedd ar y drive, a mi oeddwn i'n gallu clywed y ffôn yn canu o'r ty!
Yn anffodus, mi wnaeth fy ffôn dorri tra oeddwn i yno - stori hir iawn, ond mi wnaeth gwraig Myrddin benderfynu mynd a'r plant am dro, felly ffwrdd a hi a dreifio dros fy ffôn oedd ar ben y car o flaen y tŷ!

Nôl i Gaerdydd wedyn dydd Mercher ar y tren sy'n cymeryd bron i 5 awr o Llandudno er mwyn ffeinal y cwis pop rhwng Ysgol Brynrefail, Llanrug a Ysgol Penweddig, Aberystwyth ar C2.
Penweddig wnaeth ennill o 20 pwynt, a mi wnaeth Cynan, capten y tim, ddweud ei fod o am i fi sgwennu cân i gystadleuaeth Cân i Gymru efo fo flwyddyn nesaf - gawn ni weld ia?!

Nos Iau, mi es i Clwb Ifor efo Siân a Magi i barti penblwydd label Ciwdod yn 3 oed. Mi wnaethon ni gyrraedd bach yn hwyr, a dim ond set Texas Radio Band welon ni. Nes i really joio nhw, achos doeddwn i erioed wedi gweld nhw'n perfformio'n fyw o'r blaen!
Highlight y noson i fi oedd cael cyfarfod Swci Boscawen - dwi'n meddwl bod hi'n mega ciwt! Yn anffodus doeddwn ni ddim di sylweddoli bod ganddi gariad!

Wnes i fawr ddim byd dydd Gwener achos bo fi bach yn hungover! Mi ddaeth Eryl fy ffrind sy'n canu i Jen Jeniro draw i weld fi, a mi aethon ni i nofio a mynd i Nandos yn y bae am swper. Ges i alwad ffôn yn y p'nawn gan Rich o Gola Ola yn dweud fod o a'i ffrind Siôn yn pasa dod draw i Gaerdydd am y penwythnos a gofyn os fasa nhw'n cael aros.
Nathon nhw gyrraedd tua hanner nos, a ma nhw wedi dod i gwaith efo fi a Magi heddiw. Edrych mlaen i gael night out efo'r hogia heno!

Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x


glyn wise

12.05.07- LBT

Ma'r ffaith fod fy mod yn mynd i Gyprus mewn mis a hanner yn dechrau codi ofn arnai. Dyw fy nghorff noeth ddim wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd lawer, felly ma meddwl am gamu mas ar draeth mewn string-bicini yn rili poeni fi. Fi di dechrau felly...(drum roll) mynd i'r gym!

No way ydw i'n mynd i fynd i gym posh. Sa i'n mynd i dalu £500000 i ymaelodi a wedyn £20000 y mis er mwyn rhoi fy hun drwy boen. Dwi wedi felly, penderfynu mynd i'r ganolfan hamdden yn Grangetown - Channel View. Mae'n costio £3.50 bob tro gyfeillion! Pa mor wych yw hwna?

Fi di bod 4 gwaith ers i fi benderfynu cael gwared â fy wobli bits. Ma'r gym ar fore Mawrth a bore Iau ond i ferched, sy'n fab achos does dim byd gwaeth na chwysu fel mochyn o flaen hot-hunk ar y treadmill drws nesa i chi. Mae e hefyd yn cool achos ma eitha lot o hen fenywod yn mynd, sy'n neud fi deimlo chydig bach yn well pan fi'n colapsio ar ôl neud 2 funud ar y beic. Wedi dweud hynny - ma lot o'r grannies lot mwy ffit na fi. Roedd na hen fenyw ar y cross-trainer drws nesa i fi wythnos dwetha, ac odd hi di bod ar y peiriant am 35 munud! Parch mamgu...

Ma "nhw'n" dweud dyle chi amrywio eich ymarfer, felly bore Iau nes i fynd i ddosbarth Legs, Bums and Tums. Hilariws yw'r unig air i ddisgrifio'r awr yna o fy mywyd. Nes i dreulio'r awr just yn chwerthin ar fy hun. Odd e fel bo fi di cael profiad allan o fy nghorff - fel bo fi'n eistedd lan ar y balconi ac yn edrych lawr ar fy hun yn trio cadw lan gyda phawb arall. O fi'n hollol ddi-rythm ac allan-o-sync. A nes i bron â llewygu pan nath y ddynes roi dumb-bells i ni ddal tra'n neud y grape-vine.

Felly ma f'ymgyrch cadw'n hieni wedi dechre am yr haf. Da iawn fi. Llawer clap fel fydde Sian Alaw yn dweud. Yr unig hitch yn y cynllun gwych yma? Nes i bwyso'n hun ar ôl bod yn LBT. O fi di magu 4 pwys! Magu 4 pwys! Ble, fy ffrindiau, ma'r cyfiawnder yn hwna? tystiolaeth gadarn, yn fy marn i, fod Duw, yn ddyn....

M xxx

Gyda llaw - roedd Texas Radio Band yn ace ar nos Iau yng Nghlwb Ifor Bach.

Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy