Magi a Glyn
Mai 5, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
05.05.07 - Baftas Cymru a llwyth o ferched!
Syth ar ôl rhaglen dydd Sadwrn es i draw i westy moethus yn y bae i gwrdd â Imogen a chriw ffilmio'r rhaglen ddogfen. Mi oedden nhw'n ffilmio y ddau ohona ni'n cael yn barod ar gyfer gwobrau'r Baftas! Mi oedd Imogen wedi cael ffroc newydd neis iawn, a chwarae teg mi ges i fy nhux wedi ei ddraiclinio!
Dwi wrth fy modd yn cerdded i fewn i ddigwyddiad ar hyd carped coch, ac oedd heno ddim gwahanol. Llwyth o bobl yn tynnu ein lluniau ni ac yn holi cwestiynau ar gyfer y papurau dydd Sul. Mi oedden ni'n eistedd ar yr un bwrdd a neb llai na Hywel Gwynfryn a chriw Pobol y Cwm. Roedd y bwyd yn neis iawn, ond roedd y pedair potel o win coch nes i yfed yn hyd yn oed yn neisiach!
Mi oeddwn i a Imogen yn cyflwyno dwy wobr ar y noson, un i'r rhaglen blant orau sef Campyfan a hefyd gwobr i'r rhaglen ieuenctid orau sef Freeride. Pan nes i gerdded ymlaen i'r llwyfan nath rhwyun o'r gynulleidfa weiddi 'I Love you Glyn!', so nes i ddweud diolch, a nath Imogen ddechrau chwerthin!
Ar ôl i bawb gael eu gwobrwyo nath yr adloniant ddechrau, a ges i mega laff, yn dawnsio a chusanu nifer o ferched del iawn! Ar ôl i bawb gael eu hel o'r CIA, nes i a chriw o bobl fynd o amglych clybiau Caerdydd, oedd o'n gret, o ni'n cael pwshio i ffrynt y ciw ymhob man! O ni adre dwi'n meddwl tua pedwar or gloch y bore!!
Codi ganol bore dydd Sul a mynd draw i'r Mumbles am dro efo fy ffrindiau Ed a Sam. Tra oedden ni'n cerdded ar draws y traeth nes i weld merch ddel or enw Jade, oedd flwyddyn yn 'fengach na fi, ac yn astudio lefel A yn yr ysgol leol.
'O ni wedi trefnu cwrdd a Jade nos Fawrth yn y Walkabout yng Nghaerdydd. Mi wnes i droi fyny, a mi wnaeth Jade droi fyny, ond es i adael efo merch arall - wps!!
Dydd Mercher fues i'n brysur yn golchi dillad a llnau'r fflat, gan fy mod i'n mynd i Efrog Newydd ar fy ngwyliau yn syth ar ôl rhaglen dydd Sadwrn.
Teithio fyny i'r gogledd dydd Iau ar gyfer pledleisio am y tro cyntaf, ac yn ôl a fi lawr yr A470 am yr eildro mewn diwrnod ar gyfer bod yn ôl yng Nghaerdydd ar gyfer rhaglen dydd Sadwrn.
Ar ôl rhaglen heddiw, dwi'n mynd yn syth i'r maes awyr, dwi methu aros! Yr unig beth, mae Magi newydd ddweud wrthai, na fyddai'n cael yfed draw yno, gan fod y ddeddf yn dweud fod rhaid i bawb fod dros 21 oed i yfed alcohol yn America !! O Wel, gewch chi'n hanes i gyd gennai wythnos nesaf!
Hwyl
Glyn
x

5.05.07- Baftas Shmaftas...
La di la. Di la di la
Fi'n teimlo weithiau mai fi yw'r unig berson yn y byd sy heb gofrestri gyda facebook. Na myspace. Dydw i ddim yn bwriadu neud chwaith.
Pan o fi'n neud TGAU Saesneg, roedd rhaid i ni ddarllen llyfr o'r enw Brother in the Land. Roedd e'n llyfr depressing iawn am ryfel niwcliar. Roedd rhywun wedi gwasgu'r bwtwm mawr coch a roedd y bom wedi cael ei ollwng ar Brydain. Ar ôl y fall-out niwclear, dim ond cwpwl o bobol oedd ar ôl ym Mhrydain. Brother in The Land oedd un ohonyn nhw. Fi'n teimlo fel Brother in The Land. Fi weithiau yn teimlo fod dim ond cwpwl o bobol ar ôl yn y byd sy heb gael eu heintio gydag ymbelydredd myspace a facebook. Fi yw'r Chwaer ar y Tir.
Dyw pobol ddim yn siarad gyda'i gilydd rhagor.
Ma pawb just yn ebostio neu anfon negeseuon testun. Neu'n waeth fyth yn ychwanegu "ffrindiau" i'w cyfrifon myspace. Dyn nhw ddim yn ffrindiau go iawn. Just enwau a lluniau gwag. Pam na neiff pobol just siarad gyda'i gilydd? Fi'n meddwl bo pobol ofn siarad â'i gilydd wyneb yn wyneb erbyn hyn. Ma tecsio neu ebostio yn golygu cyfleu negeseuon - heb orfod edrych i fyw llygaid pobol.
Pan chi'n tecstio rhywun gyda newddion drwg - fel "fi'n dympo ti - ti yn hyll," mae'n golygu does dim rhaid i chi weld y boen a'r teimlad a'r emosiwn yn llygaid y person yna. Yn yr un modd, os chi'n ebostio rhywun gyda newyddion da fel, "fi'n caru ti - ti yn lush", dych chi ddim yn gallu profi'i hapusrwydd na chlywed ei chwerthiniaid. Ryn ni'n mynd fel robots. Yn datblygu imiwnedd i emosiynau a theimladau.
Felly ar ôl i chi ddarllen yr egofnod yma, pam na newch chi godi o'ch sedd a mynd i siarad gyda rhywun. Rili siarad. Dim ebostio. Dim tecstio. Dim ffonio hyd yn oed. Actually siarad gyda rhywun. Wyneb yn wyneb. Go on.. off a chi
Ooo - teimlo'n well nawr ar ôl y rant yna...
Traaaaa lyfs
M xxx
O.N - Wrth gwrs ma myspace ddim yn wael i gyd. Os chi'n fand Cymraeg mae'n syniad da cofrestri - cos ellwch chi fod yn fand Gwyliwch y Gofod ar nos Iau ar C2. Os hoffech chi fod yn fand Gwyliwch y Gofod - ebostiwch ni... [email protected]. Neu ffoniwch ni - neu hei - galwch mewn i'r swyddfa i'n gweld!
Wele ddisglaimer bach - rhag ofn bo fi'n cael punch gan rhyuwn
Oes oes gennych chi safle myspace neu facebook, fi ddim yn trio dweud bo chi'n sad ac heb ffrindiau na theimladau. Addo nawr. Just bod e ddim yn cuppa tea fi... (ok, Rob a Sioned?)
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise