BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagee-Gofnod C2
Magi a Glyn
Ebrill 21, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

21.04.07 - Dwi'n casau'r A470!!
Dim lot i fynd rwan tan y marathon!! Dwi'n dechrau poeni! Ma gen i personal trainer erbyn hyn, sydd wedi bod yn rhoi tips da iawn i fi. Nes i benderfynu ar ol y rhaglen y baswn i'n mynd allan i dre, y noson ola i fi gael alcohol cyn y ras fawr. Ar hyn o bryd fy hoff far yng Nghaerdydd ydi Tiger Tiger, a dwi fel arfer yn cael nosweithiau da yno! Ond o na ddim y nos Sadwrn yma- slap ar draws fy ngwyneb oedd hi gan ryw gariad cenfigennus oedd ddim yn hapus fod ei gariad yn siarad efo fi!

Gwneud fawr ddim byd dydd Sul, treulio rhanfwyaf y diwrnod yn y pwll nofio efo fy ffrind Keira, diwrnod eithaf tawel gan fod yna wythnos galed o ymarfer o fy mlaen!

Diwrnod llawn arall dydd Llun. Treulio'r bore yn ymarfer gyda fy 'personal trainer' cyn i griw Uned 5 ddod draw i ffilmio eitem arnai yn ymarfer ar gyfer y marathon. Ymarfer badminton wedyn gyda'r nos - a gwely cynnar gan fy mod i wedi blino!

Dydd Mercher mi oedd Daf Du a fi ar Wedi 7 - unwaith eto yn trafod y marathon. Dyna i gyd dwi'n neud wythnos yma, dwi'n byw a cysgu y marathon yma! Nath Daf a fi gael bet ar Wedi 7 - bet o 50 ceiniog i bwy bynnag sy'n ennill. Dwi'n ama y bydd Daf yn fy nghuro i gan ei fod o wedi bod yn ymarfer am dros 6 mis a fi ond wedi bod yn rhedeg ers tua mis!

Nôl i Blaenau Ffestiniog dydd Iau i ffilmio ar gyfer y rhaglen ddogfen amdanaf i a Imogen fydd ar S4C ddiwedd mis Mai. Mi wnaethon nhw ffilmio fi a fy ffrind ysgol David yn yfed cans tu allan i'r ty, a hefyd ffilmio fi a Mam yn bod yn wirion! Es i ar criw ffilmio draw i'r ganolfan chwaraeon i ddangos lle o ni'n arfer gweithio pan oeddwn ni yn yr ysgol. Nathon nhw ofyn i fi redeg ar hyd ochr y pwll fatha David Hasselhoff!!

Pam pam pam fod yr A470 mor hir a phell? Mae teithio o'r gogledd i'r de yn cymeryd drwy'r dydd! A dyna'i gyd wnes i dydd Iau oedd eistedd yn y car rhwng Blaenau a Chaerdydd, a'r peth mwyaf exciting wnes i oedd stopio am chips yn Builth!

Syth ar ôl rhaglen heddiw dwi off i Lundain - marathon yfory - a dwi heb redeg dim ers dydd Mawrth - Oh No!! Tan tro nesaf! (os fyddai dal yma!)
Hwyl
Glyn
x


glyn wise

21.04.07 - Costa del Bari..

Wedi penderfynu rhywbeth heddi. Bydde bywyd yn well tase'r penwythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, a'r wythnos waith yn dechre ar ddydd Sadwrn a gorffen ar ddydd Sul. Fi'n lyfo penwythnosau. Ma' nhw'n fab. Cymrwch penwythnos dwetha' er enghraifft...

Codi'n fore gyda Alun. Fi'n fforsio fe i neud paned o goffi i fi tra bo fi'n paratoi i fynd i gwaith. Cyn i fi droi rownd, Siân a Glyn yn canu corn tu fas. Siwrne byr i gwaith yn hedfan wrth i Glyn adrodd ei hanesion difyr am personal trainers a merched del.

Rhaglen yn dechre 11.30. Awr o hwyl pur tra a Siân yn trio cadw trefn arnon ni. Syth ar ôl rhaglen, mam, Beth fy chwaer a Ella fy nith yn aros amdanai tu fas. Ma'r haul yn danboeth a'r awyr yn las fel lapizlazuli. Yr unig broblem sy gan y pedar ohono ni yw "Ble ewn ni?"

Ni'n penderfynu mynd i Barc y Rhath i gael picinic. Gethon ni gaws a bara ffresh a mefys a champagne tra'n chwerthin a sgwrsio a gwylio'r byd yn mynd heibio. Nethon ni fwydo'r hwyaid a mynd ar gwch pedlo bach dros y llyn.

Gyda'r nos - nes i eistedd o flaen y teli yn gwylio "Any Dream Will Do" - heb amheuaeth y rhaglen deledu orau erioed. Jondeep heb sideboards. Y boi yna gyda masifdannedd. Daniel yr hunc. Y builder hyll yna. Yr Arglwydd Lloyd Webber (sy, mae'n debyg, â donger masif...). Aros mewn yw'r mynd mas newydd dontcha know.

Dydd Sul dath yr anhygoel Dafydd James draw i wylio Cwpwrdd Dillad gyda fi ac Emma. Roedd un o'n mates gore ni, Lydia ar y rhaglen. Roedd hi'n edrych yn anhygoel ac o ni gyd mor browd ohoni. I ddathlu ei fabulousness, ethon ni lawr y bae (f'ail gartre) i gael cinio Sul. Dath Derfel Williams (sy hefyd wedi bod ar Cwpwrdd Dillad!) ac Iwan Davies (un o adloygwyr ffilm C2!) draw hefyd a nethon ni dreulio'r pnanwn yn sgwrsio, bwyta, yfed, chwerthin, darllen papurau sul a slagio Abi Tittmus off. Perffaith.

Daeth bore dydd Llun, lawer rhy gyflym. Mewn byd delfrydol, fydde'r penwythnos wedi para am byth. Dwi'n mynd i sefyll fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol nesa'. Fy mhlaid fydd Plaid Penwythnosau yn Rocio. Croeso i chi ymuno yn yr ymgyrch... anfonwch siec i'r cyferiad arferol!

Magi
x

Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy