BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagee-Gofnod C2
Magi a Glyn
Ebrill 7, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

31.03.07 - Dafad Ddu, tyd a lwc i Mi!!
Wythnos yma, dwi a Imogen wedi bod yn brysur yn ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen i S4C fydd i'w gweld fis nesaf. Rhaglen ydi hi sy'n dilyn y ddau ohono ni yn ein gwaith bob dydd, a mae'n gyfle i bobl gael gwled be da ni wedi bod yn ei wneud ers gadael ty'r Brawd Mawr.

Dydd Llun diwrnod o fodlo! Mi oedd yn rhaid i fi a Imogen wneud lot o powsho mewn ty posh rhywle yng Nghaerdydd. Mi oedd rhaid i ni gael tynnu'n lluniau yn gorwedd ar wely, a hefyd mewn shower (gyda'n dillad ymlaen wrth gwrs!!) Hefyd mi wnes i lot o gyfweliadau a ateb llwyth o gwestiynau am be dwi di bod yn ei wneud dros yr wyth mis diwethaf.

Dydd Mawrth es i am run, gan fod yna llai na pythefnos i fynd rwan tan marathon Llundain. Nes i redeg i Castell Coch ac yn ôl sydd tua 16 milltir, gymerodd hi 3 awr i fi - ond mi wnes i gerdded dipyn o'r ffordd hefyd!!

Gan fod criw Fflic yn dod draw i'r fflat i ffilmio dydd Mercher, nes i benderfynu mynd lawr i Ikea i brynu 'chydig o bethau i'r ty i neud o edrych 'chydig bach yn fwy cartrefol. Nes i brynu lampau, 2 gwpwrdd a tools i'r gegin, fatha 'can opener'!! O ni wedi cerdded i Ikea a mi oedd rhain i gyd rhy drwm i fi gario nhw adre efo fi, felly nes i ffonio fy ffrind Chris i ddod draw i roi lifft adre i fi.

Tantrum cynta'r wythnos!
Pwy ddudodd fod rhoi pethau fflat back at ei gilydd yn hawdd?
Ddim fi! Ar ôl bod wrthi am ryw ddwy awr, doeddwn i dal ddim nes at roi'r cypyrddau at ei gilydd!
Os edrychwch chi'n ofalus ar fy fflat yn y rhaglen ddogfen, mi newch chi weld fod yna lwyth o ddarnau o bren a sgriws ar lawr y stafell fyw!!

Dydd Mercher mi oeddwn ni'n cael fy nilyn i bob man gan y criw camera. Mi oeddan nhw' fy ffilmio fi'n siopa, yn cael cinio, yn mynd am fake tan a hefyd mi wnaethon nhw ffilmio fi'n cyflwyno C2 efo Magi.
Mi oedd yna lwyth o chwerthin yn rhaglen nos Fercher, mi wnaeth Magi wneud hwyl ar fy mhen i pan nes i ddweud fod gweld dafad ddu mewn cae yn lwcus!! Dwi di checkio efo Mam, a mae'n debyg fod pobl Blaenau yn credu fod gweld dafad ddu yn dod a lwc, er fod Magi yn mynnu na gweld cath ddu sy'n dod a lwc i bobl!!!

Ar ôl y rhaglen mi es i â chriw C2 allan i'r bae, efo'r criw camera! Noson dda, arwahan ein bod ni wedi cael ein taflu allan o un o'r tafarndai yno! (Stori hir di honno, nai adael i Magi ddweud yr hanes!)

Dydd Iau es i allan am y dydd efo fy ffrind Darr, sy'n actio yn y gyfres i blant Tracey Beaker. Ddim yn siwr iawn lle oedden ni, ond mi wnaethon ni chwarae darts a pool drwy'r dydd.
Gyda'r nos, nes i gwrdd a criw Fflic, gan fod Lowri sy'n gweitho yna yn dathlu ei phenblwydd. Fathag arfer nes i ffansio merch ddel iawn gyda gwallt hir melyn, ond reit ar ddiwedd y noson nath hi ddweud wrthai fod ganddi gariad - typical!

Dydd Gwener, mi oedd Mam a Dad yn dod draw i aros efo fi, felly mi oedd yn rhaid i fi godi'n fuan i llnau'r ty a hefyd i fynd i siopa er mwyn llenwi'r fridge efo bwyd, er mwyn i fy rhieni feddwl fy mod i'n edrych ar ôl fy hun yma yng Nghaerdydd.
Chwarae teg i Dad i wnaeth o drio fy helpu i roi'r cyprddau newydd at ei gilydd, ond gafodd o fawr o lwc chwaith!! Unrhywun yn nabod rhywun sy'n dda am roi flatpacks at ei gilydd??!

Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x


glyn wise

07.04.07 - Hwre! Mae'n basg!...

Pasg Hapus bobol! Mae pasg yn ace nagyw e? Wedi cael wythnos brysur yr wythnos hon gan fy mod i wedi bod yn cadw sedd Daf yn gynnes ar C2. Nos Fercher gyda Glyn yn hilariws! Criw camera mewn yn ffimlio Glyn felly o fi chydig bach yn hunan-ymwybodol. Cledrau fy nwylo yn chwysu braidd achos o ni bach yn nerfus. Fi ddim yn gyfarwydd â chael camera yn fy nghwyneb, tra bo hi fel ail-natur i Glyn. Ond gethon ni laff. Nath Glyn ddewis cân Bonnie o Big Brother fel ei drac yr wythnos..... O diar, o diar, diar mî....

Ethon ni mas wedyn i gael bev lawr y bae. Aethon ni i dafarn ofnadwy (allai ddim ei henwi am resymau cyfreithiol) ond nethon nhw daflu ni mas 5 munud ar ôl i ni brynu potel o win, a hefyd dweud wrtho ni am beidio siarad Cymraeg! Ewn ni byth nol i fyna.

Roedd penwythnos y pasg i gyd yn lyfli. Roedd yr haul yn gwenu a phawb yn teimlo'n hapus. Mae'n wir fod bywyd yn well pan ma'r haul yn gwenu. Es i i ddathlu pen-blwydd fy ffrind, Marged ddydd Gwener yn heulwen bae Caerdydd. (ond ddim yn y pyb horrible) Roedd yr hyfryd Heulwen Haf yn eistedd ar ein pwys drwy'r prynhawn. Ma hi'n ffantastic ac yn edrych yn anhygoel. Nath hi brynu gwydred o Amaretto i ni gyd. Fi erioed di blasu Amaretto or blaen, ond roedd yn lyfli - fel hufen iâ. Yum. Cheers Heulwen.

Mynd i brynu ffrog morwyn briodas syth ar ôl y rhaglen heddi'. Ma'n chwaer i'n priodi yng Nghyprus fis Mehefin. Allai ddim aros. Mae'n mynd i fod yn ace. Y peth fi'n edrych ymlaen ato fwya yw gweld Alun yn ei speedos. Haul poeth ar fy nghefn, Amaretto yn fy llaw, ac Alun yn torheulo yn ei speedos gwyn. Mae'n mynd i fod yn un haf a hanner!

M xxx

Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy