Magi a Glyn
Mawrth 17, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
17.03.07 - Nol i'r hen ysgol....
Dwi di bod ar daith ysgolion drwy Gymru gyfan yr wythnos hon! Dwi'n licio mynd i wahanol lefydd yng Nghymru a siarad gyda gwahanol bobol. Nes i fynd nol i fy hen ysgol, Ysgol Llanrwst. Roedd o'n grêt bod nol, a beth oedd yn dda oedd fod pawb yn trin fi fel Glyn - dim Glyn Big Brother. Roedd pawb yn hapus i weld fi a ro'n ni'n hapus i weld nhw.
Ond rhyngo ni a'r pedwar wal - ges i chydig bach o strop tra yn yr ysgol. O ni di blino achos ro'ni di bod yn teithio drwy'r dydd. Dwi'n teimlo'n wael am gael tantrym bach, ond ma pawb yn blinio weithia yndydan? Does neb yn gallu gwenu o hyd.
Ar ôl wythnos brysur yn teithio Cymru nes i hegli 'ddi lawr i Gaerdydd ar gyfer rhaglen fi a Magi fore Sadwrn. Roedd hi'n ddydd Sadwrn arbennig achos roedd Cymru yn chware Lloegr ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad, felly roedd ein rhaglen yn dod yn fyw o'r Mochyn Du. Dwi erioed wedi neud rhaglen ar leoliad o'r blaen felly roeddwn ni chydig bach yn nerfys ond unwaith nethon ni ddweud yr "Helo" cynta, roeddwn ni wrth fy modd. Doeddwn ni ddim iso stopio!
Nath Magi roi her i fi dywallt peint perffaith o Guinness. Dwi'n meddwl bo fi di neud jobyn da. Nath hi ddeud fod o'n disgusting, ond dwi'n meddwl fod hi'n jocian, achos nath Robin C2 oedd yn gweithio hefo ni, downio fo mewn un!
Achos roedd yn benwythnos mawr bth fy nghefnder David ddod i aros. Mae o'n byw yn Port felly dwi ddim yn gweld o lawer nawr dwi'n byw yng Nghaerdydd felly roedd o'n grêt ei weld o. Nethon ni fynd mas i glybio yng Nghaerdydd a gafodd y ddau ohonon ni amser da iawn. Aeth Magi adra yn gynnar achos ma hi'n light weight ond nethon ni gario mlaen tan oria mân yn bora!
Tan wythnos nesa! Hwyl
Glyn x

17.03.07 - Pam fi Duw?...
Wythnos brysur arall i li'lle ol' me. Nos Wener nes i, Robin C2 a Huw M deithio i'r Ffatri Bop ar gyfer rownd ranbarthol y de ddwyrain, Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2, Radio Cymru. Mae'r Ffatri Bop yn Porth - sef nec o ddy woods fi.
Ma Porth yn lle fab, ond mae'n dod ag atgofion eitha gwael nol atai. Ma'r dre ryw 5 munud o Bontypridd ac roedd arfer bod clwb nos yna o'r enw Charmonds. Dyna oedd y lle i fynd pan oeddwn ni yn y 6ed dosbarth. Nes i a fy ffrind gore yn yr ysgol, Merril, benderfynu cynnal ein parti pen-blwydd yn 18 oed yn Charmonds. Nethon ni wahodd y crem de la crem o fechgyn golygus ysgol Rhydfelen, ond gan ma dim ond like 5 oedd hwna, nethon ni hefyd wahodd disgyblion Coed y Lan a Cardinal Newman (oedd yn reit ryff i fod yn onest)...
Aaaanyway, nethon ni brintio gwahoddiadau a phopeth (odd e fel Super Sweet 16 - y rhaglen yna ar MTV) a dweud wrth bawb i fod tu fas i Charmonds erbyn 7. Nath ryw 500 o chavs Ponty droi lan yn y Porth (nifer fawr ohonynt wedi dod â'i trwyddedau gyrru amheus iawn.. "Be yw dyddiad geni ti?" "Uuuhh, Ionawr y 6ed 1983.. na.. uhh 1943... nooo - uuhh - ang on... 1973?...") ond yn anffodus doedd perchennog Charmonds ddim ymhlith y 500 o bobol oedd wedi troi lan y noson honno. Nath y perchennog "anghofio" bo ni di trefnu parti yn ei glwb nos.
Ond chware teg i'r heddlu - nethon nhw droi lan i "ymuno yn yr hwyl" ar ôl i'r bobol leol ddechre cwyno. Ymateb fi a Merril i'r crisis yma oedd rhedeg i'r dafarn agosa ac yfed cymaint o Diamond White a oedd yn bosib. Doedden ni ddim yn boblogaidd iawn y bore wedyn yn stafell y 6ed - ac i fod yn onest, dwi wastad wedi beio Porth am yr wythnos o fwlio nes i ddiodde yn sgil y non-parti yn Charmonds.
Ond ta waeth, roedd y noson yn y Ffatri Bop yn ace iawn. 8 band wedi cystadlu, bob un ohonyn nhw yn wych ond dim ond 3 oedd yn cael mynd ymlaen i'r rownd nesaf, a'r tri oedd Cymro-C, Random Elbow Pain a Stamina Straightjacket. Nes i gyfweld â'r bandiau i gyd. Roedd Cymro-C yn hilarious - criw ifanc o Aberdar - mor ddrygionus, mor cheeky, mor annwyl ac yn atgoffa fi gymaint o fy ffrindiau ddoth draw i ddathlu fy non-pen-blwydd yn Charmonds.
Dydd Sadwrn, roedd rhaglen Dodd a Wise yn dod yn fyw o'r Mochyn Du yng Nghaerdydd gan bo Cymru yn herio'r hen elyn yng nghêm ola' pencampwrtaeth y Chwe Gwlad. Roedd Steve yn y stwidio a Terwyn druan, mas yn oerfel Stryd Westagte. Ges i a Glyn lot o hwyl yn y Mochyn Du, yn enwedig pan nes i ei herio i dynnu peint perffaith o Guinness gan ei fod yn ddiwrnod Padrig Saint.
Erbyn i ni orffen yn y Mochyn Du am 2y pnawn - roedd y lle yn orlawn. Doeddech chi ddim yn gallu symud yna. Pawb di clywed ein bod ni yna mae'n rhaid! Gan ei fod yn amhosib mynd i'r ty bach hyd yn oed, gan ei fod mor llawn, nes i benderfynu mynd adre a chael parti bach fy hun yn Strangetown. Falle dyna ddyle fi a Merril wedi neud i ddathlu ein pen-blwydd yn 18!
Magi xxxx