BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagee-Gofnod C2
Magi a Glyn
Mawrth 10, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

10.03.07 - Pen Maen Mawr a Pasta....

Wythnos arall ar ben! Dwi mor brysur ar hyn o bryd - chwara'n galed a gweithio'n galed! Yn syth wedi rhaglen fi a Magi ddydd Sadwrn ethon ni allan i gael cinio yn Buffalo Bar gyda'r criw i ddathlu Penblwydd Magi. Nes i brynu potal o win gwyn iddi a dwi'n meddwl fod hi'n hapus gyda'r anrheg yna!!

Nes i yfad eitha lot o win tra'n cael cinio. Roedden ni allan drwy'r dydd ac erbyn i fi gyrraedd Fat Cat roeddwn ni chydig bach yn tiddly! Nes i weld fy chwaer, Annette oedd lawr yng Nghaerdydd gyda'i ffrindiau a hogia Gola Ola felly ges i amser ffantastig. Aeth pawb arall adra yn eitha cynnar ond nes i a Sian a Robin aros allan yn dawnsio tan 3 y bore! Nes i ddeffro bora wedyn yn cysgu yny corridor tu allan i fy fflat. Roedd cur pen anferth gen i ar ddydd Sul, ond daeth Annette draw i llnau'r fflat a helpu fi wella ar ôl fy noson fawr. Nefar again!

Roeddwn i'n well erbyn nos Fercher - sy'n beth da achos roedd rhaglen gen i gyflwyno gyda Daf Du ar C2! Cwis pop nos Fercher oedd rhwng Ysgol Gwynllyw ac Ysgol Brynrefail. Roedd y carioci yn grêt - a nath Brynrefail ennill o un pwynt yn unig!! Rhaglen wych fel arfer!

Dydd Iau nes i fynd ar raglen goginio gyda Angela Grey ar Radio Wales. Nes i ddysgu sut i goginio pasta a tomatos. Ella nai wahodd criw C2 draw i'r fflat a trio'r ryseit allan arnyn nhw. Magi fydd y sbecial guest wrth gwrs achos mae hi'n lyfi.

Reit ta - dwi ar y ffordd adra i Blaena syth ar ôl y rhaglan heddiw. Welai chi wythnos nesa'!

Hwyl
Glyn x glyn wise

10.03.07 - Penblwydd hapus fi...

Wythnos fy mhen-blwydd. Rydw i fel y Frenhines. Dydw i ddim yn cael diwrnod pen-blwydd - fi'n cael wythnos. Dyma fy wythnos:

Dydd Sadwrn
Mas ar ôl y rhaglen gyda'r criw. Joio. Neis. Criw Gola Ola yn ymuno hefyd. Emma fy ffrind wedi mynd adre yn sâl ar ôl yfed potel o win gwyn yn gyflym iawn. Yr hyn dwi wedi ddysgu ar ôl byw am 30 mlynedd yw fod gwin gwyn yn evil. Gyfeillion - cadwch draw rhag y gwin gwyn, oni bai eich bod yn ei yfed yn gall gyda phryd o fwyd posh a hynny am ei fod yn gwella blas y bwyd. Pediwch da chi â'i yfed fel pop ar brynhawn dydd Sadwrn yng Nghaerdydd - neu adre yn y gwely erbyn Dancing On Ice fydd eich hanes chi....

Dydd Sul
Chillo mas gyda Alun o flaen y teli. Hollyoaks, Eastenders, Pobol y Cwm a lot o fwyd. Wedi bwriadu mynd i weld Meic Stevens a Heather Jones yn y Ciwb ond doeddwn ni ddim yn gallu wynebu bod yn agos i alcohol i fod yn onest. Ond nethon ni symud o'r ty. Unwaith. Nethon ni ddarganfod Nandos yn y bae. Dêro chi i fynd i Nandos a thrio'r saws Popeth Iawn ar eich cyw iâr. Nes i ac Alun gael Medium ac o fi'n meddwl bo fi'n marw. Typical dyn, odd Alun fel, "Ie.. ma hwna fel, yn totally mild," ond fi'n nabod e'n ddigon da i wybod fod e'n diodde'. Sut ma unrhywun yn gallu bwyta'r saws Poeth Iawn. Os chi wedi llwyddo - plis cysylltwch â ni yma yn C2.

Dydd Llun
Nos Lun, es i ac Alun i gig Euros Childs yn y Point. Nethon ni gwrdd â Rhys, brawd Alun yn y White Hart gynta'. Tafarn gore Caerdydd heb os nag onibai. Nethon ni golli £6 ar y peiriant Who Wants To Be a Millionaire? felly doedd dim arian gyda ni i roi yn y JukeBox anhygoel sy yna. Mae'n beiriant gwych - ond mae'n costio £1 am gân. Wedi hen fynd ma'r diwrnodau pan odd £1 yn ddigon am 5 cân... Draw wedyn i weld y Thretmantics ac Euros. Fab. Ma Euros yn ace. Nes i ofyn i Owain, rheolwr Euros os fydde Euos yn fodlon dweud pen-blwydd hapus i fi o'r llwyfan. Ond nath e ddim. Gutted.

Dydd Mawrth
Mas gyda'r teulu i ddathlu. Ma dad yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 fory a fi'n dathlu 30 dydd Iau so double wammy i'r Dodds.

Dydd Mercher
Mas gyda'r ladies i yfed champagne yn y dre. Alex, Marged, Louise, Sara a fi yn cwaffio champers ac yn hel atgofion am ein diwrnodau coleg pan oedd potel o Concorde yn cael ei hystyried yn posh. Nethon nhw brynu cacen siocled (hawlfraint Jonsi 1970) i fi oedd yn lyfli. Diet yn dechre fory. Falle....

Dydd Iau
Diwrnod fy mhen-blwydd! Hwre! Diwrnod lyfli gyda Alun. Ges i lots o anrhegion. Roedd e fel dolig! Nath Alun gael crys t ET i fi, a DVDs Family Guy a llyfre am Audrey Hepburn a Diana Ross a hefyd gwyliau i Verona! Ma fe moooor lyfli. Nethon ni dreulio'r diwrnod ym Mhenarth wedyn - yn chware ar y tywod ac yn cael cystadleuaeth taflu cerrig i'r môr. Diwrnod perffaith gyda'r bachgen perffaith. Hei - dyw 30 ddim mor wael ag 'o fi di meddwl!

Dydd Gwener
Diwrnod lyfli arall. Cysgu'n hwyr, cerdded mewn i'r dre, cael cinio gyda Alun. Nag yw e'n typical though? Ma wythnos gyfan pan ych chii yn gweithio yn teimlo mooooor hir ac yn llusgo'n ofnadwy. Ond ma wythnos pan ych chi ar eich gwyliau yn hedfan. Cyn ichi droi rowd mae'r wythnos ar ben. Ond falle bod yr wythnos hon yn brawf fod yr hen ddywediad Cymraeg... "Ma amser yn hedfan pan chi'n cael amser da," yn hollol wir. Ah wel - dim ond 6 mis tan Verona....

Magi xxxx



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy