Magi a Glyn
Mawrth 03, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
03.03.07 - Cerdded a Cherdded a Cherdded a Cherdded a Cherdded...phew!!
Ar ôl y rhaglen wsnos dwetha, mi ges i syniad gwych i fynd i gerdded ar hyd Llwybr y Taf. Mi nes i ddragio Sian y Cynhyrchydd hefo fi ag i ffwrdd a ni. Nathon ni benderfynu cerdded i fyny at Castell Coch....trwy'r mwd â ni, nacro fy sgidie yn y broses, ond erbyn i ni gyrraedd am tua 4.30pm, roedd y Castell ar gau! Felly troi yn ôl am adre nathon ni.....a gweld fod ni di cerdded tua 16 milltir!
Dydd Sul a ddydd Llun mi fues i'n chware badminton efo'n ffrindie, ond mi roeddwn i'n reit stiff ar ôl y cerdded pnawn Sadwrn . Dydd Mawrth fues i'n sgwennu rhannau o'm mywgraffiad efo Beca Brown. Mae'n reit ddiddorol trio cofio nôl ar eich bywyd eich hun. Dydd Mercher, wrth gwrs, yw Noson C2. Tacsi mewn i'r Beeb a swper yn y BBC...mmm.
Dydd Iau mi fues i ar noson speed dating yn Aberystwyth a oedd yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen newydd ar ITV. Roedd pethe'n mynd yn iawn nes i fi sôn wrth un merch "Mae'n amlwg fod pethe'n mynd yn dda iti, mi rwyt ti wedi cael cusan ar dy wddw" ond mi ddwedodd hi mae man geni oedd o! Wps! Wedyn ddaru rhywun pingio fy mresys a mi nathon nhw frifo fy nipple i felly roedd hwnnw'n sore drwy'r nos wedyn! Aw! Nes i ddim ffeindio cariad yno. Roedden nhw gyd chydig bach yn hyn na fi...
Dydd Gwener fues i'n chware ar y playstation bron iawn drwy'r dydd. Wel, dwi am fynd rwan - welai chi wythnos nesaf!
Hwyl
Glyn
x

03.03.07 - Achub y byd.. maaaaan....
Ddydd Mercher es i ac Alun i'r fflix i weld "Last King of Scotland" sef hanes yr unben Idi Amin oedd yn rheoli Uganda. Mae'n anhygoel o ffilm. Roedd Alun yn cwyno'r holl fordd yna, "Fi ddim ise gweld ffilm rybish hanesyddol - fi ise gweld Hot Fuzz." Roeddwn ni ar fin rhoi slap iddo fe am fod mor frwnt - ond wedyn nes i sylweddoli mai ffilm gomedi oedd Hot Fuzz - nid ffilm porn. Ond roedd hyd yn oed Alun yn meddwl fod Last King Of Scotland yn dda. Ma fe mor scary. Ond hefyd yn eitha' trist achos roedd pobol Uganda yn byw mewn ofn a than ormest.
Nath y ffilm gymaint o argraff arnai, ar ôl gadel y sinema nes i benderfynu mynd i wlad fel Uganda neu Etheopia i weithio fel gwirfoddolwr i helpu pobol sy'n dioddef. Yr unig broblem yw, fi'n casau fflies a creepy crawlies a mae'n debyg bo creepy crawlies anferth yn Uganda felly sain siwr os fyddai'n gallu ymdopi. Nath Fern Britton off This Morning seiclo drwy'r Aifft i godi arian i elusen. A ma hi'n ddynes "nobl" fel bydde Daf Du yn dweud - felly os nath Fern lwyddo neud e - fi'n siwr allai neud hwna. A fi'n siwr fod y creepy crawlies yn yr Aifft ddim cweit mor fawr. Seiclo'r Aifft amdani. Codi arian i elusen a cholli pwyse ar yr un pryd? Quality...
Nos Wener roedd Dave Black yn cyflwyno Cân i Gymru 2007 lawr yn yr Afan Lido ym Mhort Talbot, felly mi nes i gadw ei sêdd yn gynnes yn stiwdios moethus C2. Roedd Alun Owens (y Parchedig Pop...hallelujah!) a Steffan Rhys Williams (cyn-enillydd CiG) yn westeion a mi roedd Jeni Lyn lawr yn yr Afan Lido yn dod a'r holl gossip i ni.
Ma Alun O yn fab. Mae'n gwybod loads am gerddoriaeth - bron gymaint ag Ian Cottrell. Fy claim to fame yw nes i guro Alun O mewn cwis pop unwaith. Mae e dal i ddweud bo fi wedi twyllo - a rhyngddo ni a'r pedair wal yma - nes i, ond neiff e byth ffeindio mas. Achos dyw e byth yn darllen fy egofnod - mae'n rhy brysur yn edrych ar ôl plant bach Cymru lawr yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd. Ond ta waeth - nethon ni gyd fwynhau Cân i Gymru yn fawr iawn. Nath Daf a Leri job arbennig o dda yn cyflwyno'r rhaglen fyw, ac er bo fi'n siomedig nad Al Lewis enillodd, nes i dal fwynhau.
Rrrait - mynd i ddechre ymarfer am fy nhaith drwy'r Aifft. Wel - nai ddechre dydd Llun ife?..
M xxxx