Magi a Glyn
Mawrth 31, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
31.03.07 - Trens, Plens a automobils!!
Dydd Llun es i draw i Lanberis i ffilmio ar gyfer rhaglen newydd i'r BBC sef 'National Treasures of Wales', fydd ar y teledu mis Awst dwi'n meddwl. O ni yna i sôn am bwysigrwydd y diwydiant llechi i Gymru. Ar ôl gorffen gweithio es i adre i Blaenau i gael dipyn bach o TLC gan Mam!
Off i 'Werddon dydd Mercher i weld Spiral. Ges i'r tren o Blaenau i Gaergybi yna'r ferry ar draws i Ddulyn. Ges i amser mega da. Ar ôl cyrraedd athon ni i siopa, nes i brynu par o sgidiau gwyn a crys newydd ar gyfer mynd allan i Temple Bar noson honno. Nes i 'really' mwynhau fy hun, yn yfed cider yn Temple Bar, a dawnsio drwy'r nos efo merch brydferth iawn efo gwallt hir melyn o'r enw Niamh. Ges i siom enfawr ar ddiwedd y nos, pan nes i ffeindio allan fod ganddi hi gariad! Am wastraff amser!
Gan bo fi'n aros yn ty Spiral, mi oedd rhaid i fi rannu stafell wely efo Spiral a'i gariad o Latfia, bach yn 'awkward'oedd hi ar adaegau!
Y bwriad oedd gadael Iwerddon ar y dydd Iau a cael diwrnod adre yn Blaeanu cyn teithio nôl ar y tren i Gaerdydd dydd bore Gwener.
Ond o na! Ar ôl cinio mi aeth tad Spiral a fi 'r porthladd i ddal y ferry adre. Ond a'th o a fi i'r porthladd anghywir. Mi aeth o a fi i Dun Laighaire yn hytrach na i Ddulyn, a felly nes i golli'r ferry a gorfod aros noson arall!
Syth allan i ganol Dulyn eto efo Spiral a dal y ferry yn ôl bore Gwener yn lle, ond y ferry anghywir, nid y super duper ferry sy'n cymeryd 2 awr i fynd drosodd, ond es i ar y ferry sy'n cymeryd 6 awr!!
Ar ôl teithio drwy'r dydd dydd Gwener, nes i gyrraedd nôl yng Nghaerdydd am 1 o'r gloch y bore, bore ma!!
Gwely i fi ar ôl y rhaglen p'nawn ma - ma gen i farathon i redeg mewn 3 wythnos!!!!!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

31.03.07 - Beth yw'r ots gennyf fi am Efrog Newydd?... Helo helo - dyma fi nol yng Nghymru fach ar ôl wythnos yn jet-setio. Da iawn. Pan o ni'n fach ac yn mynd ar fy ngwyliau gyda mam a dad a Beth fy chwaer, (doedden ni byth yn mynd i Costa Del Sol na dim, roedden ni'n wastad yn cael gwylie ABC... Another Blincin Church.. Another Blincin Capel... ) ond o fi wastad yn cael amser da. Doeddwn i byth yn deall pam felly, fod mam a dad wastad yn dweud "Ooh! Mae'n neis bod adre!" achos yn fy marn i roedd bod unrhywle yn well na bod ym Mhontypridd. Ond nawr fi wedi tyfu lan, fi'n deall be oedd mam a dad yn son amdano. Roedd mynd i Efrog Newydd yn neis, ond mae'n ffab bod nol.
Nath Sian (y cynhyrchydd) ac Emma (fy ffrind ac house-mate) ddychwelyd o Hong Kong wythnos dwetha'. Nethon nhw fynd i Tseina a phrynu hadbags posh iawn am bris rhesymol iawn. Yng Nghymru, bysen ni'n dweud fod y bagiau wedi "cwympo oddi ar gefn lori" ond ma nhw'n fabulous iawn. Nath Emma brynu bag tebyg i'r Mulberry Roxanne a nath Sian gael Dior Saddlebag... fi yn rili cenfigenus. Sgwn i os nai ffeindio un tebyg lawr Bessemer Road ar ddydd Sul?
Nes i ac Emma fynd i siopa i archfarchnad nid an-enwog ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, a nethon ni benderfynu prynu chydig bach o grog gan fod ein coctêl cabinet ni yn wag. Ond pan gyraeddon ni y til dyma'r ddynes tu ol y til yn gofyn yn swrth;
"You gor any i.d girls?"
Nes i ac Emma chwerthin yn braf - chware teg iddi, roedd hi'n garedig iawn. Ydyn, mi rydyn ni'n edrych yn ifanc iawn, ond c'mon Mrs, gad i ni brynu'r jin ife? Dywedodd Emma yn ei Saesneg posh gore:
"Yn anffodus does gennym ddim dystiolaeth oedran, heblaw am ein cardiau credit. Mae'n rhaid i chi fod yn 18 i gael carden credit, felly, mae hynny yn ddigon o dystiolaeth onid ydyw?"
Nath Shereen (dyna oedd ei henw) tu ol y til edrych arnom ni a dweud:
"No ID? No drink - if you're norr 'appy - ill call the boss"
Rhaid oedd gadel y siop gyda'n cynffon rhwng ein coesau - yn teimlo rhyw gymysegdd rhyfedd o falchder am ein bod ni'n edrych mor ifanc, a chynddaredd gan fod rhaid i ni adel yr archfarchnad yn waglaw.
Sheree, love, os ti'n darllen hwn - ti'n neud jobyn a hanner tu ôl y til 'na - ond dwi newydd droi yn 30oed a'r unig beth gwaeth na choctêl cabinet gwag yn Stafford Road, Grangetown yw.... mm... i ddweud y gwir, does dim byd gwaeth na hynny!
Mae'n dda bod adre, bobol
M xxx
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise