Magi a Glyn
Chwefror 24, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
17.01.07 - Hunangofiant Glyn!
Ar ôl gwobrau RAP penwythnos diwethaf, nes i anghofio sôn fy mod i wedi deffro yn y gwesty yn Llandudno a 'di mynd lawr i frecwast heb sbectol. O ni'n rhannu bwrdd efo'r ddynes wnaeth ennill gwobr Cyfraniad Oes y noson gynt - neb llai na Caryl Parry Jones! Gan bo fi ddim yn gwisgo fy sbectol o ni ddim yn siwr iawn pwy oedd hi a nes i fwydro dipyn! So os ti'n darllen hwn Caryl - sori!
P'nawn Sul nes i fynd i barti penblwydd fy nai Dylan John yn un oed. Mi oedd ty fy chwaer yn llawn plant o bob oed, a lot o fwyd neis! Gwely cynnar oedd hi i fi wedyn nos Sul!!
Dydd Mawrth oedd hi'n ddiwrnod crempog, a mi o ni wedi cytuno i wneud arddangosfa goginio yn y Galeri yng Nghaernarfon efo Dudley. Yr unig beth fedrai ddweud oedd, ei fod o fatha sioe 'the brains and the idiot of food!'
Mi o ni'n helpu Dudley i wneud pryd 3 cwrs. I ddechrau mi wnaethon ni rhywbeth oedd yn debyg iawn i pillowcases, sef ravioli, yna 'meat balls' fel yr ail gwrs ac yna crempogau i bwdin.
Ar ôl gorffen gwneud y bwyd, mi oedd rhaid i fi wneud 'meet and greet', sef arwyddo llwyth o autographs a cael tynnu fy llun sawl gwaith.
Dydd Mercher, mi oedd rhaid i fi wneud fy nghas beth, sef teithio ar y tren o Landudno i Gaerdydd, siwrne sy'n cymeryd rhanfwyaf y dydd. Ar ôl cyrraedd stesion Caerdydd, mi oedd rhaid i fi fynd yn syth i swyddfa C2 i baratoi ar gyfer rhaglen C2 nos Fercher. O ni di blino braidd, a ddim yn teimlo fy mod wedi cael y rhaglen orau yn y byd, ond mi wnes i fwynhau'r cwis pop fathag arfer!
Dydd Iau, mi es i ar 'tour' o amglych Canolfan y Mileniwm efo fy Anti a fy Yncl. Dyma'r trydydd gwaith i fi fynd ar y 'tour' yma, a rhaid dweud bo fi bach yn bored ohono fo erbyn hyn. Nes i adael fy nheulu yno, a mynd adre i sgwennu fy ffan mail, rhywbeth dwi wedi fwriadu ei wneud ers 'Dolig, ond wasatad yn rhoi 'off' ei wneud. Mae rhai o fy ffans i mor garedig, ma' nhw'n gyrru bob math o anrhegion drud atai, felly dwi'n teimlo ei fod yn bwysig fy mod i'n diolch iddyn nhw.
Dydd Gwener nes i ddechrau ar y dasg o sgwennu fy hunangofiant. Dwi ddim yn sgwennu fo fy hun, Beca Brown sy'n sgwennu fo ar fy rhan i a dwi dweud wrthi be dwi di bod yn wneud. Dwi'n falch erbyn hyn bo fi wedi cadw dyddiadur ers i fi ddod allan o'r ty mis Awst diwethaf. Mae gennai naw sesiwn arall efo Beca, felly mi fydd rhaid i fi ddechrau meddwl am be o ni'n wneud cyn Big Brother.
A na fo am wythnos arall!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

24.2.07 - Swatio dan y Duvet (hawlfraint Lisa Gwilym 2002) Ymddiheiriadau ond dydw i ddim yn cofio braidd dim am noson RAP felly allai ddim datgleu llawer am y noson lan yn Llandudno. Dwi'n cofio cyflwyno'r wobr i Genod Droog a cherdded draw i'r parti gyda Caryl Parry Jones a'i merched Miriam ac Elan (o nhw'n lyfli iawn.) Wedyn y peth ola dwi'n cofio yw gweld Ian Cottrel, Gareth Delve a Gethin o Ashokan yn dawnsio gyda cowbell. Ewch draw i galeri C2 i weld Ian yn bwrw cloch mawr Gethin. Neis...
Deffrais bore wedyn ar ben y dillad gwely yn fy nillad i gyd. Popeth. 'Sgidiau, tights, clustlysau, colur - ond a dweud y gwir, roedd mwy o golur ar glustogau gwyn y gwesty nag ar fy nghwyneb. Byth eto. Na rili lawr. Byth eto.
Mewn ymgais i droi fy nghefn ar or-yfed, gor-fwyta, gor-bartio penwythnos RAP, treulias y penwythnos hwn yn cuddio yn fy mwthin bach clud yn Grangetown. (Wel, ma fe'n fwy o grotty terrace na bwthin, ond fi dal yn caru fe.) Tra ath Alun mas gyda'r bois i wylio'r rygbi es i adre a chau'r drws ar y billions o gefnogwyr rygbi/pêl-droed oedd wedi heidio i Gaerdydd.
Yn affodus iawn i fi, ma gen i chippy gore Caerdydd ar ddiwedd fy stryd, felly nath ryw hanner biliwn o'r cefnogwyr benderfynu prynu Clarks Pie a chips oddi yno a nid yn unig neud lot o swn, ond hefyd creu lot o annibendod ar fy stryd. Pam o pam o pam nag yw pobol yn gallu rhoi sbwriel yn y bin? Dyw e ddim yn blincin anodd. Nes i agor y drws fore sul i fynd i brynu News of The Screws a nes i roi fy nhroed mewn tray o chips a curry sauce oer. Ddim yn hapus. Roll on Wembley Stadium....
M x
Newydd ddarllen nôl dros f'egofnod... mmm... ife fi yw e - neu ydw i'n mynd yn hen?
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise