BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagee-Gofnod C2
Magi a Glyn
Chwefror 17, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

17.01.07 - Darllen, dillad a dathlu!

Wythnos amrywiol iawn i fi eto wythnos yma. Ar ôl rhaglen dydd Sadwrn diwethaf, o' ni di bwriadu mynd adre i'r gogledd, ond nes i ddim cweit ei gwneud hi! Aeth Magi, Siân, Ian Cottrell a fi allan am ginio i'r bae yn syth o'r stiwdio. A'th un botel o win efo bwyd yn boteli a nes i golli'r tren! Es i wylio 'Most Haunted' cyn mynd i fy ngwely, oedd ddim yn syniad da, gan bo fi'n dychmygu bob math o synau gwahanol yn y fflat.

Dydd Sul es i am 'run'. Run cynta'r flwyddyn, gan bo fi wedi cael fy nghofrestru i wneud marathon Llundain fis Ebrill. Mae Daf Du yn gwneud y marathon hefyd, ond mae o'n cymeryd y peth o ddifri, yn rhedeg rhyw 10 milltir bob yn ail ddiwrnod. Ar ôl rhedeg o'r bae i Landaf ac yn ôl (a mynd ar goll yn y broses) tydwi heb redeg wedyn gan bo fi wedi cael Cattarrah!!

Diwrnod prysur dydd Mawrth, nes i ymweld a 3 llyfrgell yng Nghogledd Cymru, yng Nghaernarfon, Llandundo a Llangefni. O ni yna i ddweud wrth bobl i ddefnyddio eu llyfrgell, a pa mor bwysig ydi darllen, ond fatha wythnos diwethaf, nes i dreulio rhanfwyaf y dydd, yn llofnodi lluniau!

Dydd Iau, ges i ddiwrnod gret, es i fewn i ganol y ddinas, a siopa. Nes i brynu dillad newydd ar gyfer gwobrau RAP, llwyth o bethau eraill rhagofn bo fi'n newid fy meddwl, a hefyd presant penblwydd i Dylan John, hogyn fy chwaer oedd yn un oed dydd Sul.

Dydd Gwener, ges i lifft i'r gogledd efo Magi a Siân. Siwrne a hanner, nathon ni adael Caerdydd tua 2 o'r gloch a cyrraedd Blaenau tua 6. Gafodd Mam, Magi a Siân fashion show, nes i drio mlaen fy nillad ar gyfer gwobrau RAP. O ni di mynd am y Jack Tweed look, ond oedd Mam ddim yn hoffi'r braces!

Rhaglen dda iawn dydd Sadwrn, o ni wedi weindio braidd! Gwobrau RAP wedyn gyda'r nos yn Llandudno. O'dd Magi a Fi'n rhoi'r wobr i Artist mwyaf poblogiadd gwrandawyr Radio Cymru. Genod Droog wnaeth ennill.
Parti da wedyn ar ôl y gwobrau, nes i gwrdd a llwyth o bobl, a dawnsio lot!! Ddim ar fy ngorau wedyn bore dydd Sul! Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x


glyn wise

17.02.07- A47Vomit...

Oherwydd Gwobre RAP es i a Glyn a Siân lan i'r gogledd i neud ein rhaglen fore dydd Sadwrn o Fangor. Mae un cwestiwn gen i. Pwy nath gynllunio'r A470? Miloedd o flynyddoedd yn ôl nath Y Rhufeiniaid ddod draw i Brydain a dysgu'r Brythoniaid sut i adeiladu ffyrdd syth achos:

a) Ma' nhw'n gynt
b) Dyw e ddim yn neud i chi deimlo'n sâl (roedd hyd yn oed y Rhufeiniaid yn mynd yn chariot-sick)

Pam felly ydy'r brif rhewl o'r de i'r gogledd mor droedig o droellig? O ni'n teimlo'n sâl yr holl ffordd lan. Rydw i'n mynd i ddechre ymgyrch i sythu'r A470... os chi ise ymuno yn yr ymgyrch - anfonwch gyfraniad ariannol - plis anfonwch y siecie ata fi yma yn C2.

Ar y ffordd lan nethon ni stopio yn Merthyr i gael pizza. Ma Merthyr yn lle ace. Ma pobol Merthyr yn hilarious. Nath Glyn gamu mewn i'r lle Pizza a llithro ar y llawr gwlyb - a roedd pobol Merthyr just yn stero arno fe. No shame. Just syllu arno fe. A wedyn dath rhyw ferch draw a mynd... "Is yew Glyn off Big Brother?" a nath Glyn weud ie, a wedyn nath hi fynd "Ie - thôt soooo" a just troi ar ei sowdl a mynd nol at ei gwaith. Mae Merthyr yn ace.

Rhaglen bore Sadwrn yn dda - Glyn wedi weindio ac yn gyffro i gyd am y gwobre heno. Fi dal bach yn stressed though achos ma'r oufit fi wedi dewis yn neud fi edrych yn dew. Hot pants denim..mmmm... falle na... Fi'n meddwl dylen ni gynnal gwobre RAP flwyddyn nesa yn Merthyr. Ma nhw'n hen gyfarwydd â gweld merched tew mewn dillad bach. I weud y gwir mae'r rhaid i chi fod yn dew a gwisgo hot pants i ffito mewn yn Merthyr. Hyd yn oed y bechgyn...

Nai rhannu'r gossip o gwobre RAP da chi gyd wythnos nesa.

M x

O.N - Helo mam Glyn! Diolch am y coffi a'r gacen xxx

Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy