Magi a Glyn
Chwefror 10, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
10.01.07 - Ta Ta Big Brother!
Mae hi di bod yn wythnos brysur i fi wythnos yma. Dechrau'r wythnos mi oeddwn ni yn y gorllewin yn hyrwyddo ymgyrch or enw 'Codi Llais dros Lyfrgelloedd'. Be o ni'n gorfod ei wneud oedd siarad efo plant ysgol am ba mor dda ydi llyfrgelloedd. Mi oedd y plant yn cael cyfle i holi fi am fy hoff lyfrau a ballu, ond ges i'r un cwestiwn am lyfrau ond llwyth o gwestiynau am Big Brother.
Nôl i Gaerdydd dydd Mercher, a mi es i i siarad i ysgol gynradd lleol am y pwysigrwydd o ddarllen. Ar ôl gorffen yn yr ysgol mi oedd gen i 'chydig o oriau i'w sbario cyn mynd i'r BBC at griw C2, felly es i i'r dref i weld dyn oedd yn dweud ffortiwn yn y farchnad. Mi oedd o'n ddiddorol iawn, nath o ddweud wrtha fi y baswn i'n priodi a cael tri o blant. Nath o ddweud wrthai y basa gennai yrfa da hefyd.
O ni ar dipyn o 'high' wedyn yn mynd i fewn at griw C2. Dwi wrth fy modd efo'r cwis pop ar nos fercher, wythnos yma tro Ysgol Eifionydd Porthmadog yn erbyn ysgol Brynhyfryd, Rhuthun oedd hi, a ysgol Eifionydd enillodd.
Ar ôl y rhaglen es i am beint i'r bae efo fy ffrind Chris. Methu cysgu wedyn ar ôl cyrraedd adre ac aros i fyny tan 4 o'r gloch yn gwylio ffilm am y Klu Klux Klan.
Dydd Gwener o ni wedi cael y byg, o ni methu stopio meddwl am be oedd y dyn dweud ffortiwn wedi dweud wrthai ganol wythnos, felly es i'n ôl i gael clywed mwy am fy nyfodol. Mi oedd hi'n bwrw eira erbyn i fi ddod allan o'r farchnad, ac roedd rhaid i fi ddal y tren i Lundain ar gyfer parti 'reunion' Big Brother.
O ni di bod yn edrych ymlaen am y parti ers wythnosau, gan feddwl y basa fo'n gret dal fyny efo'r holl griw oedd yn y ty efo fi dros yr haf. Wel am siom! Iawn oedd y parti.
Mi oedd yr ystafell yn llawn cenfigen, pawb am y gorau i brofi pwy oedd wedi gwneud y mwyaf o bres ers gadael y ty. Dwi ddim eisiau dweud gormod, ond mi oedd yna lot o ffraeo, cwffio a cusanu yn ystod y parti. Imogen druan gafodd yr amser gwaethaf dwi'n meddwl. Fawr neb o'r merched eraill yn siarad efo hi.
Er ei fod hi'n neis gweld pawb eto, dwi wedi sylweddoli mai dim ond gem ddaeth a ni at ein gilydd a bo ni wedi gorfod bod yn ffrindiau am y cyfnod o dri mis.
Yn rhyfedd iawn, nes i siarad lot efo Bonnie, y cyntaf i adael y ty, a hefyd efo Susie y ddynes o ni'n meddwl oedd yn 'boring' iawn gan ei bod hi'n gwneud dim byd ond yfed te! Mae'n debyg na fyddai'n gweld rhanfwyaf o griw Big Brother byth eto.
Gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn yma, y bydd pobl yn cyfeirio atai fel Glyn C2 yn hytrach na Glyn Big Brother. Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

13.02.07- Rhybudd - mae ystafelloedd newid yn evil...
Dyw fy mywyd i ddim hanner mor gyffroes a glamorous â un Glyn. Dydw i ddim wedi mynychu parti posh yn Llundain yr wythnos hon nac ychwaith wedi edrych mewn i fy nyfodol, (ma heddiw'n ddigon o broblem heb son am fory....) ond yr hyn dwi wedi neud yr wythnos hon yw dysgu gwers-fywyd bwysig. Mae ystafelloedd newid siopau dillad yn ddrwg, yn filenig, yn evil thrw and thrw.
Gwobrau RAP nos Sadwrn nesa' wrth gwrs, felly penderfynais droedio i Gaerdydd i brynu outfit newydd. Roedd gen i lun yn fy mhen - llun ohona i yn edrych yn slim a glam mewn rhyw ffrog fach Kylie Minogue-aidd. Yn ffodus iawn, ma llwythi o'r math yma o ffrog ar gael yn y siope ar hyn o bryd - y smoc/shifft/empire line thing. Arbennig. Roedd pethe'n mynd yn dda - y freuddwyd oedd, fy mod i'n mynd i edrych mor wych - fydde llun ohonai yn ymddangos ar safle gwe C2, neu o fewn tudalennau Clywch Clywch - neu os fi'n rili lwcus - yn V, y cylchgrawn am ddim gyda Golwg...
Weles i ffrog fach las lyfli yn H'n'M. Gwych - does dim H'n'M ym Mangor na Llandudno - dim peryg felly bydde Lisa Gwilym/Jeni Lyn/Genod Droog yn gwisgo'r un peth â fi. Mewn â fi i'r stafell newid. Lle'n llawn o fyfyrwyr 19 oed tal, tenau a brown. Teimlo fel minger yn syth. Nag os gwaith 'da nhw neud? Traethodau? Arholiadau? yn hytrach na gwario arian treth dalwyr lawr yn H'n'M?
Mewn a fi i'r gell newid. Tynnu fy nillad a chamu mewn i'r ffrog fach las. Wel - trio - ddoth e ddim pellach na fy mhenegliniau. Teimlo fel marw. Edryches i mewn i'r drych. Roedd fy nghlunie yn edrych fel toes. Fy nghroen i yn edrych fel croen Pete Dogherty. Ble oedd Trinny a Suze pan o fi angen nhw? I goroni'r hunllef, fel o ni'n sefyll yna - yn agos i ddagre, nath ryw fodel o fyfyrwraig agor y lleni, syllu arnai lan a lawr, gyda rhyw gymysgedd o biti a ffeidddra - ymddiheiro a chau y lleni arna i a fy nghywilydd.
Doedd ond un peth i neud ar ol y fath hunllef - es i i'r pyb a phrynu glased anferth o win a buger a chips. Doedd pethe ddim yn edrych cweit mor ddrwg wedyn. Y wers felly yw; Ma ystafelloedd newid siopau dillad yn evil. Ma burgers, ar y llaw arall yn ace. Pwy sy ise bod yn V anyway?....
M x
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise