BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imagee-Gofnod C2
Magi a Glyn
Ionawr 20, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!

glyn wise

13.01.07 - Shuttlecock a Shandi!
Rhuthro o'r stiwdio yn syth mewn i dacsi a lawr a fi i recordio Celebrity Big Brother's Little Brother. Fath ag arfer mi oedd dre' yn brysur iawn. Ar ôl gorffen gweithio, nôl a fi i fy fflat lle oedd fy chwaer Annette a'i chariad Mattias yn aros amdanai. Oeddan ni di pasa mynd i dre ond lawr yn y bae aethon ni yn y diwedd, haws cerdded adre na disgwyl am dacsi.

Doedd yr un ohono ni ar ein gorau dydd Sul. Ar ôl i fy chwaer a'i chariad fynd adre, es i draw i 'Erddi Sophia i wylio'r badminton. diwrnod diog iawn ar y cyfan.

Nos Lun mi o ni'n gwneud 'public apperance' yn Jumpin' Jaks yng Nghaerdydd. Mi dda'th fy 'tour manager' i nôl fi a mynd a fi draw. Nath Siân, Mair a Ian o dim C2 ddod draw 'fyd i weld y sioe. O'ni wedi rhoi eu henwau nhw ar y drws, so bo ddim rhaid iddyn nhw dalu. Es i ymlaen i'r llwyfan am hanner nos, a dawnsio i thema Baywatch. Fel rhan o'r sioe dwi'n tynnu fy nghrys a fy melt -a dim arall! Wedyn dwi'n canu'r egg song, cyn mynd ati i chwarae gems. Fy hoff gem i ydi pasio'r 'ice cube' o geg i geg. Dwi'n gorfod dewis 5 merch o'r gynulleidfa i ddod i'r llwyfan i chwarae'r gem! Gem yr hogia ydi gorfod yfed burger, chips a coke wedi cael ei flendio (tebyg iawn i beth ges i yn y ty, ond cig oen a pavlova oedd hwnnw!)
Bues i'n 'meetio a greetio' am awr a hanner. Ma hyn yn golygu cael tynnu fy llun sawl gwaith a cusanu lot o ferched! Nes i gyrraedd adre tua 2.30am, noson dda iawn!

Dydd Mawrth ydi diwrnod 'Welsh in a Week'. Ar hyn o bryd mae'n rhaid i fi gadw'n gyfrinach pwy dwi'n ei ddysgu i siarad Cymraeg, ond fydd ddim rhaid i chi aros yn hir, achos mi fydd y rhaglen ymlaen ar Fawrth 1af. Ges i hwyl heddiw, roedd yn rhaid i fi ddysgu'r actores sut i ganu 'sosban fach'!.
Noson dawel i fi wedyn, setlo fy hun lawr ar y soffa am y noson i wylio Big Brother.

Bore dydd Mercher mi oeddwn i yn yr orsaf drenau yn holi pobl pwy oedden nhw'n meddwl fasa'n cael eu evictio o'r ty dydd Gwener. Mi oeddan ni di gorffen ffilmio erbyn amser cinio, felly oedd gennai ddigon o amser i baratoi ar gyfer y parti yn y fflat noson honno. Gan fod ryw gem beldroed ymlaen ar nos Fercher, doedd C2 ddim yn dechra' tan 10 felly doedd gennai ddim rhaglen. Mi ddath criw C2 draw i gael bwyd a hefyd fy ffrindiau badminton. Oedd rhaid i fi dynnu llun y buffet o ni wedi ei wneud er mwyn ei ddangos i Mam, fasa hi byth yn credu bo fi'n gallu paratoi y ffasiwn beth! Mi o 'ni di prynu'r gem bobbit yn dre, a mae o'n 'mega cool' gafon ni hwyl yn chwarae efo fo, mi oedd pawb yn eitha' da arwahan i Magi oedd yn rubbish a ddim yn trio!! A'th hi'n noson hwyr, oedd hi'n tynnu at 3 o'r gloch ar bawb yn gadael!

O ni'n gorfod mynd i stiwdio C2 p'nawn dydd Iau i recordio rhywbeth ar gyfer rhaglen dydd Sadwrn. Gan bo fi'n rhedeg marathon Llundain efo Daf Du mis Ebrill, o ni'n meddwl y basa fo'n syniad da cerdded o'r bae i'r BBC er mwyn cadw'n ffit! Dydd Iau oedd y tywydd yn afiach, glaw a gwynt a cenllysg! Cymerodd hi dros awr i fi, a mi oeddwn ni'n socian yn cyrraedd y BBC. Nos Iau wedyn mi ddath un o fy ffrindiau coleg i draw i aros, ac a'th hi'n noson hwyr eto!

Gan fod y tywydd dal yn afiach dydd Gwener nes i benderfynu mynd ar un o'r teithiau yna o amgylch castell Caerdydd. A nes i fwynhau!! Yn y p'nawn es i chwarae badminton. Mi oedd rhaid i fi chwarae yn erbyn hogyn 12 oed gan fod pawb arall yn y dosbarth llawer iawn gwell na fi! Noson o flaen y teledu i fi wedyn a gwylio Big Brother. Ar ôl gwylio Ugly Betty es i fy ngwely a gwrando ar Steve a Terwyn ar C2.

Bore 'ma nes i gerdded draw i dy Siân (cynhyrchydd C2) a mynd a platiau yn ôl iddi (o'n ni di gael benthyg platiau ganddi ar gyfer y parti nos fercher). Diwrnod prysur o fy mlaen i heddiw, ar ôl y rhaglen gorfod ffilmio ar gyfer CBBLB ac yna draw i Gastell Newydd Emlyn ar gyfer fy 'public apperance' olaf! Reit tan wythnos nesaf..... Hwyl
Glyn
x


glyn wise

20.01.07 - Llosgi'r gannwyll....

Ar ôl cwyno fy ffordd drwy f'egofnod dwetha - fyddwch chi'n falch o glywed bo fi'n teimlo lots gwell yr wythnos ma.

I ddatlhu'r ffaith bo fi'n teimlo'n well nes i a fy nghariad, Alun, fynd i weld White Noise 2- The Light. Ma fe'n eitha spooky achos ma'n ffilm am bobol sy bron a marw ond wedyn yn dod nol i fywyd - ac ma nhw'n dod ag ysbrydion nol gyda nhw. Ma Alun ofn ffilmiau arwsyd felly odd rhaid i fi ddal ei law drwy'r holl ffilm. Nes i a Alun fynd i weld Snakes on a Plane yn y sinema ychydig fisoedd yn ôl, a wir i Dduw, nath y dyn o'n blaenau ni fynd i'r ty bach yn ei drowsus. A nid number one chwaith. Number two. Plops. Yn ei drowsus. A ma hynny'n stori hollol wir.

Nos Fercher - Glyn oedd yr hostess with the mostess. Ethon ni draw i'w fflat i gael soiree anffurfiol. Ma'r fflat yn lyfli a nath Glyn neud bwffe blasus i ni gyd. Daeth Joy, cymdoges Americanaidd Glyn, lan i ymuno yn y parti. Roedd Glyn a Robin C2 yn hapus iawn i'w gweld achos roedd hi'n edrych fel Pamela Anderson gyda ffrog ddu dynn arno. O fi'n teimlo fel fat-bap wrth ei hymyl. Roedd hi moooor gorgeous. Falle dyna nath beri i fi golli bob gêm o bobbit.

Nos Iau - es i a fy ffrindiau Emma a Lydia mas i gael swper. Sdim byd gwell na chael noson 'da'r merched. Gossip a gwin oedd canolbwynt y noson felly erbyn bore dydd Gwener, o fi'n teimlo chydig bach yn dodjy. Doedd hynny ddim yn beth da - na chwaith yn beth proffesiynol - achos roeddwn ni'n westai ar Wedi 3 y pnawn hwnnw!

Ar ôl newid 64 o weithiau, penderfynais wisgo ffrog goch i fynd ar y teli-bocs. Dwi erioed di bod ar y teledu felly o fi'n nerfys iawn, ond roedd John Hardy ac Elinor Jones yn lyfli ac aeth pethe'n ok. Allai hefyd ddiolch i'r ddynes golur. Roedd ganddi job a hanner cuddio olion y noson flaenorol - ond ar ôl tunnell o poly-filler roeddwn i'n barod i wynebu'r genedl...

Yn syth ar ôl rhaglen C2 ddydd Sadwrn gyda Glyn, nes i nedio ar y tren i Lundain i ddathlu pen-blwydd un o fy ffridnie gore Sara. Nethon ni fynd i Cafe de Paris i gael swper a wedyn ymlwybro draw ir clwb nos i gael dawns. Nath fy ffrindiau Louise ac Alex fynd i'r bar a gofyn am 5 G'n'T. Daeth y ddwy nol yn wyn fel y galchen. Gostiodd y diodydd £50 iddyn nhw. Am 5 diod! Ellwch chi brynu diod i bawb yn y dafarn am y pris yna yn Angharads yn Ponty! Ond roedd hi'n noson a hanner a phawb 'di mwynhau. Pen-blwydd Hapus iawn i ti Sar! Ymlaen at y dathliad nesa - fy mhenblwydd i ym mis Mawrth.... 25 o'r diwedd!..... Magi
xxx

Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!


Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy